Ymunwch â ni ar gyfer ein digwyddiad Hacio Bywyd am ddim eleni er mwyn cael profiad ymarferol gan bob sy'n gweithio ar draws sawl diwydiant creadigol yma yng Nghymru.
Drwy gydol y dydd cewch chi ofyn unrhywbeth wrthyn nhw, fel sut ddechreuon nhw, dod o hyd i swydd eich breuddwydion neu sut i fynd ati i gicdanio'ch gyrfa.
PWY ALL DDOD?
Os ydych chi'n 11–25 mlwydd oed, dewch i gwrdd â gweithwyr o'r diwydiannau hyn a chymryd rhan mewn gweithdai creadigol a rhyngweithiol am ddim. Rydyn ni'n gweithio ag arbenigwyr o fydoedd theatr a dawns, radio a ffilm, cerddoriaeth a dylunio, a mwy.
PRYD?
Cynhelir ein digwyddiad 2022 yn The Factory, y Porth ar ddydd Mercher 20 Ebrill o 2pm i 10pm.
Beth fydd yn digwydd?
Mae'r digwyddiad gyfan am ddim ac yn cynnwys gweithdai, rhwydweithio cyflym a bwyd, gyda disgo tawel ar ddiwedd y dydd!
Dewch draw er mwyn cael eich ysbrydoli i ddechrau gyrfa yn y diwydiannau creadigol.
*Mae niferoedd yn gyfyngedig felly dylech chi ond archebu lle os ydych chi bendant yn bwriadu mynychu.
Trefnwyd y weithgaredd hon drwy ein partneriaeth Yn Gryfach Ynghyd gyda Valleys Kids, ac ariannwyd hi gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru.