Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Bob dydd Mawrth, 4.30pm – 6.30pm ar Zoom

LAB STORI: DEWISWCH EICH ANTUR EICH HUN

Byddwch yn greadigol ar-lein am ddim

AR-LEIN

26 Ebrill - 31 Mai 2022

Llwytho…
{{vm.booking_status}}

{{::on_sale_date.formatted_date}}

{{::on_sale_date.label}}

Ychwanegu i’r Calendr {{::on_sale_date.on_sale_date_moment.format('DD/MM/YYYY HH:mm')}} Europe/London LAB STORI: DEWISWCH EICH ANTUR EICH HUN {{::on_sale_date.label}} AR-LEIN MM/DD/YYYY 15 event-1400

Bob dydd Mawrth, 4.30pm – 6.30pm ar Zoom

LAB STORI: DEWISWCH EICH ANTUR EICH HUN

Byddwch yn greadigol ar-lein am ddim

26 Ebrill - 31 Mai 2022

AR-LEIN

Mae'r cwrs Lab Stori yn ymchwilio i fyd straeon y gellir eu chwarae, gan greu anturiaethau rhyngweithiol lle gall y gynulleidfa fod yn chwaraewr ac yn adroddwr.

Meithrin hyder, rhannu syniadau, edrych ar ffyrdd o wneud gyda'n gilydd yn greadigol drwy theatr, ffilm, ysgrifennu creadigol a chelf.

Bydd y cwrs yn cael ei redeg gan Flossy and Boo - cwmni theatr o Gymru sy'n teithio'n rhyngwladol - sy'n gwneud gwaith rhyngweithiol sy'n edrych ar y byd o safbwynt anghonfensiynol.

Rydych chi'n cyrraedd fforc yn y ffordd. Ydych chi'n dewis y llwybr i'r dde neu i'r chwith? I adael eich bag ar ôl neu fynd ar daith i ynys heb ei darganfod?

Dros chwe wythnos byddwch yn gwneud straeon newydd sbon, yn creu cymeriadau, yn datblygu gwahanol lwybrau stori ac yn edrych ar ffyrdd o'u rhannu.

Os nad ydych erioed wedi gwneud unrhyw beth fel hyn o'r blaen ond eich bod wrth eich bodd yn bod yn greadigol, neu os ydych eisoes ar eich llwybr i ddod yn storïwr anhygoel yna mae'r cwrs hwn i chi.

I BWY MAE’R RHAGLEN?

Mae’r cyrsiau’n agored i unrhyw un 14 - 19 oed o bob cefndir ac o bob rhan o Gymru.

PRYD MAE HI?

Bob dydd Mawrth, 4.30pm – 6.30pm drwy Zoom dros chwe wythnos, gan ddechrau 26 Ebrill.

Unwaith y byddwch wedi cofrestru, byddwn yn anfon mwy o wybodaeth atoch am y cwrs ynghyd â gwahoddiad gyda dolen i ymuno â'n sgyrsiau Zoom ar-lein.

Mae chwe sesiwn yn cael eu cynnal ar y cwrs hwn: 26 Ebrill, 3 Mai, 10 Mai, 17 May, 24 Mai a 31 Mai felly bydd angen i chi fynychu pob un. Ychwanegwch un tocyn at eich basged i archebu eich lle ar y cwrs cyfan.

Once you've registered we'll send you more information about the course plus an invite with a link to join our Zoom chats online.

Ariennir y gweithgaredd hwn gan grant gan Gyngor Celfyddydau Cymru a’r Loteri Genedlaethol.

Cyflwynir yn

AR-LEIN