Rydyn ni'n cynllunio i drawsffurfio'r adeilad gan greu gofod i genedlaethau'r dyfodol fod yn greadigol, arbrofi a chryfhau eu llais.
Mae'r arddangosfa hon yn dangos y broses greadigol o greu'r gofod newydd hyd yn hyn.
Ymunwch â ni ar gyfer lansiad swyddogol y prosiect cyffrous yma a chymerwch ran mewn gweithdai a gweithgareddau hwyliog drwy gydol y dydd, gan gynnwys cerddoriaeth fyw.
Mae’n gyfle gwych i gael dweud eich dweud, creu a dysgu mwy am y gymuned newydd a’r Gofodau Creu dan arweiniad pobl ifanc sy’n cael eu datblygu yma.
Dewch i archwilio 'Creu' gyda phrynhawn o adeiladu cuddfannau ac argraffu, a chymryd y cyfle i archwilio dyfodol yr adeilad fel gofod creu cymunedol.
Amserlen yr arddangosfa
Cynhelir gweithgareddau'r dydd yn Glanfa, Labs (ein gofod gweithdy newydd yn hen far Ffresh) ac yn Radio Platfform.
12pm - Gweithdai a gweithgareddau am ddim
1 - 2pm - Cerddoriaeth fyw
2pm - Lansiad yr arddangosfa
3 - 6pm - Gweithdai a gweithgareddau am ddim yn parhau