Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Opera Cenedlaethol Cymru: Don Giovanni

18 + 19, 26 + 27 Chwefror + 17 Mawrth 2022

Theatr Donald Gordon

Mae merchetwr mwyaf y byd opera’n ei ôl ac yn ymddwyn yn eithriadol o ddrwg.

Mae’r Don Giovanni carismataidd yn hudo ei ffordd o amgylch Ewrop, yn cymryd yr hyn y mae ei eisiau ac yn byw am chwant, heb gydwybod. Pan mae un o’i goncwestau’n gorffen mewn llofruddiaeth, mae’n edrych fel bod ei lwc am newid. Mae’n canfod ei hun ar ffo, yn cael ei ddilyn gan hen gariadon a dyweddïau anfodlon a grym o du hwnt i’r bedd. Ond pan mae’n gwrthod dangos edifeirwch, mae ei orffennol yn dal i fyny ag ef ac yn arwain at ei ddiwedd.

Yn seiliedig ar chwedl Don Juan, mae cynhyrchiad Opera Cenedlaethol Cymru wedi’i leoli yn Oes Aur Sbaen. Mae Mozart yn adlewyrchu comedi a thrasiedi yn wych yn y sgôr, sy’n cynnwys yr aria ‘Catalogue’ sy’n manylu ar 2065 o gariadon Giovanni, yr aria ‘Champagne’ befriog a drama fawr y diweddglo gwefreiddiol.

wno.org.uk/giovanni
#WNOgiovanni

Cenir yn Eidaleg gydag uwchdeitlau Cymraeg a Saesneg

Amser cychwyn:
Iau, Gwe + Sad 7pm
Sul 4pm

Hyd y perfformiad: Tua 3 awr (yn cynnwys un egwyl)

CYNNIG AML-DOCYN OPERA CENEDLAETHOL CYMRU

Archebwch docynnau ar gyfer 2 opera ac arbedwch 10% 
Archebwch docynnau ar gyfer 3 opera ac arbedwch 15% 
Yn gymwys i'r 4 pris drutaf.
Caiff y cynnig ei brosesu yn eich basged siopa.

CYNIGION I GRWPIAU

Grwpiau 10+ gostyngiad o £4. Yn berthnasol i seddi penodol.

Trefnu ymweliad grŵp.

YSGOLION

£12.50 — yn berthnasol i seddi penodol. Tocyn athro am ddim gyda phob 10 disgybl. Ffôn 029 2063 6464.

CYNIGION I'R RHEINY DAN 16 OED

Tocyn am £5 wrth archebu gydag oedolyn sy'n talu am docyn pris llawn. Nodwch os gwelwch yn dda: rhaid i bob plentyn dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu’n hŷn.

Cynigion yn seiliedig ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd.

Rydyn ni wedi rhoi nifer o fesurau diogelwch ar waith er mwyn sicrhau bod ein lleoliad yn Covid-ddiogel ac yn unol â chanllawiau diweddaraf y llywodraeth.

Patti Smith

Cyflwynir yn

Theatr Donald Gordon