Gyda’i stori am frawdoliaeth, cariad a phositifrwydd, mae’r profiad rhithiol cymunedol newydd hwn wedi ei ysbrydoli gan straeon am Hussein Amiri a’i deulu, a orfodwyd i ddianc o Afghanistan yn 2000.
Mewn profiad a grëwyd mewn cydweithrediad â Hamed a Hessam Amiri i anrhydeddu bywyd rhyfeddol eu brawd, mae Ripples of Kindness yn gwahodd grwpiau bach i rannu yn yr effaith bositif a gafodd Hussein ar bawb o’i amgylch, o Afghanistan i Gymru.
Mae’r profiad wedi’i ganoli o gwmpas y sofra – y gofod byw/bwyta o fewn y cartref teuluol lle byddai’r tri brawd a’u rhieni’n dod at ei gilydd i siarad a chyfnewid straeon dros bryd o fwyd. Mae’r teulu Amiri yn eich croesawu i ymuno â hwy (yn rhithiol) yn y sofra i gwrdd â hwy ac â rhai o’r bobl a ddaeth i’w cynorthwyo pan oedd fwyaf o angen cymorth arnynt.
Cewch gyfle i ymuno mewn byd rhithiol a synhwyraidd sy’n newid yn barhaus gan gyfuno testun, perfformiadau, recordiadau gair-am-air, delweddau a sain, a thrwy hynny ymgolli’n llawn yn straeon y teulu Amiri.
Mae hwn yn gynhyrchiad Canolfan Mileniwm Cymru ac All Seeing Eye mewn cydweithrediad â Hamed a Hessam Amiri.
Mae'r profiad realiti rhithwir hwn yn cydfynd â'n cynhyrchiad llwyfan o The Boy with Two Hearts – yn Nhŷ Dawns ar 12 – 17 Medi 2022.
Amseroedd agor:
11am – 7pm Llun – Sad
11am – 4pm Sul
Yn rhedeg mewn cyfnodau 30 munud
Amser rhedeg: 15 munud. Plîs cyrhaeddwch 5 munud cyn eich amser penodol er mwyn derbyn cyfarwyddiadau iechyd a diogelwch, ac i sefydlu’r offer.
Canllaw oedran: Mae Ripples of Kindness yn addas ar gyfer rheiny sy’n 13+ oherwydd themâu dadleoliad, marwolaeth a cholled sy’n rhan o’r profiad, a hefyd maint y penwisgoedd Oculus Quest 2 a’r clustffonau. Rhaid bod unrhywun dan 16 fod yng nghwmni oedolyn.
Hygyrchedd: Mae capsiynau caeedig yn rhan o’r cyflwyniad. Mae’r profiad yn hygyrch ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn.
Rhybuddion: Dyw’r rhan fwyaf o bobl ddim yn profi unrhyw ymatebion negyddol i Realiti Rhithwir (VR). Fodd bynnag, gall VR fod yn ddryslyd ar gyfer unigolion sy’n niwroamrywiol, sydd ag amhariadau clywedol neu weledol, neu sy’n profi’r bendro, epilepsi, penysgafnder, salwch teithio neu lewygu. Os ydych chi’n feichiog neu os oes gennych reoliadur y galon, siaradwch â’ch meddyg teulu cyn cymryd rhan. Mae’r profiad VR yn archwilio themâu’n perthyn i ddadleoliad, marwolaeth a cholled a fydd efallai’n cynhyrfu rhai pobl.
BETH YW PROFIAD REALITI RHITHWIR?
Realiti rhithwir (VR) yw’r defnydd o dechnoleg gyfrifiadurol i greu byd efelychiadol. Mae gwesteion yn gwisgo penwisg gyda chlustffonau integredig dros eu clustiau.
BETH DDYLEN I DDISGWYL?
Mae Ripples of Kindness yn animeiddiad 15 munud, sy’n cyfuno seiniau a rhaglen ddogfen gyda thechnoleg sydd ar flaen y gad. Mae’n gwahodd cynulleidfaoedd i eistedd gyda fersiynau animeiddiedig o deulu’r Amiri wrth iddynt adrodd eu stori anhygoel o ffoi Affganistan yn 2000. Crëwyd y profiad mewn cydweithrediad â’r brodydd Hamed a Hessam Amiri.
OES ANGEN ARCHEBU LLE?
Gallwch archebu tocynnau ymlaen llaw ar gyfer y profiad am ddim hwn i sicrhau lle, neu ddod draw ar y dydd.
Mynediad olaf am 7pm Llun - Sad, 4pm Sul.
A DDYLWN I WYLIO THE BOY WITH TWO HEARTS GYNTAF?
Does dim rhaid wedi gwylio The Boy with Two Hearts er mwyn deall y profiad hebryngol hwn.
Fodd bynnag, os ydych chi’n mynychu un o berfformiadau ‘The Boy with Two Hearts’, efallai byddwch chi eisiau aros nes i chi weld y sioe oherwydd mae’n archwilio a datgelu ychydig o hanes teulu’r Amiri.
OES ANGEN I MI DDOD AG UNRHYWBETH?
Gellir gwisgo sbectol o dan y benwisg VR ond efallai bydd yn fwy cyfforddus i chi wisgo lensys cyffwrdd neu beidio â gwisgo’ch sbectol yn ystod y profiad.
BETH YW’R MESURAU IECHYD A DIOGELWCH?
Rydyn yn glanhau a diheintio’r holl offer, gan gynnwys penwisgoedd a chlustffonau, yn drylwyr â weipiau gwrthfacteria o safon ysbyty a pheiriant UV cyn pob defnydd. Gofynnir i chi ddefnyddio’r diheintydd dwylo a ddarperir wrth gyrraedd.
Ni chanteir babis mewn gwregys yn y profiad.
Ni chanteir i unrhyw westeion sy’n cyrraedd ar gyfer y profiad gymryd rhan dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau.
Ariennir gan Gronfa Ddiwylliant Sefydliad Garfield Weston.
Capsiynau Caeedig