Paratowch am noson o roc, Gaerdydd, achos mae sioe gerdd hynod boblogaidd Andrew Lloyd Webber o’r West End a Broadway, School of Rock, ar ei ffordd i Ganolfan Mileniwm Cymru.
Mae School of Rock yn sioe gerdd hynod boblogaidd sydd wedi’i seilio ar y ffilm eiconig gyda Jack Black. Mae Dewey Finn sy’n breuddwydio am fod yn seren roc, yn cael ei wrthod gan ei fand ac yn cael ei hun mewn trafferth yn ariannol.
Mae’n smalio bod yn athro cerddoriaeth ac mae’n cael swydd dros dro mewn ysgol elitaidd. Yno mae’n dangos ei hoff eiconau roc i’r disgyblion ac yn trawsffurfio grŵp ohonynt i fod yn fand roc anhygoel.
Wrth ddysgu’r disgyblion sut i wir ymfalchïo mewn cerddoriaeth roc, mae Dewey yn syrthio mewn cariad gyda phrifathrawes groendenau, brydferth yr ysgol, Miss Mullins, ac yn ei helpu hi i ailddarganfod ochr wyllt ei chymeriad. Ond, a fyddant yn ennill ym mrwydr y bandiau?
“I laughed, I cried, I rocked!”
“Five-star triumph”
Yn cynnwys caneuon gwreiddiol y ffilm, 14 o ganeuon newydd gan Andrew Lloyd Webber, a band o blant hynod dalentog sydd yn chwarae’n fyw yn ystod pob sioe, mae School of Rock yn sioe dwymgalon ac yn sicr o’ch gwefreiddio.
“Terrific fun”
Canllaw oed: 8+ (dim plant dan 2 oed)
Nodwch os gwelwch yn dda: Mae School of Rock yn cynnwys iaith gref ar adegau a allai fod yn anaddas ar gyfer plant ifanc. Nodwch caiff effeithiau mwg a goleuo strôb eu defnyddio yn y perfformiad yma.
Amser cychwyn:
Llun – Sad 7.30pm
Iau a Sad 2.30pm
Hyd y perfformiad: Tua 2 hwr 30 munud (yn cynnwys un egwyl)
CYNIGION I AELODAU
Gostyngiad o £10 ar 12 Ebrill. Aelodaeth
CYNIGION I GRWPIAU
Grwpiau 10+ gostyngiad o £4, Llun – Iau, ar y 2 bris drutaf. Trefnu ymweliad grŵp
YSGOLION
Tocynnau am £10, Maw a Mer 7.30pm a Iau 2.30pm, Ffôn 029 2063 6464.
CYNIGION I U16 A MYFYRWYR
Gostyngiad o £4, Maw – Iau, ar y 2 bris drutaf.
Cynigion yn seiliedig ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd
Archebwch cyn gynted â phosib er mwyn sicrhau’r dewis orau o seddi. Efallai bydd prisiau tocynnau’n cael eu haddasu a bydd yn adlewyrchu’r pris presennol ar gyfer pob perfformiad yn seiliedig ar alw. Gall prisiau newid ar unrhyw adeg heb rybudd.