Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

South Pacific

11 – 15 Hydref 2022

Theatr Donald Gordon

Mae cynhyrchiad arobryn, tirnodol Chichester Festival Theatre o sioe gerdd Rodgers & Hammerstein South Pacific yn dod i Gaerdydd yn 2022. 

Mae’r stori gariad pwerus hon, wedi’i lleoli ar ynys yn ne’r Pasiffig yn ystod yr Ail Ryfel Byd, yn dod yn fyw mewn cynhyrchiad pum-seren newydd wedi’i gyfarwyddo gan Gyfarwyddwr Artistig Chichester Festival Theatre Daniel Evans (Me and My Girl a Fiddler on the Roof). Gyda chast syfrdanol sy’n cynnwys dros dri-deg a cherddorfa lawn, y sioe gerdd swynol hon fydd yr un digwyddiad theatrig eleni mae’n rhaid i chi ei weld.

Mae hyn yn graddio allan o 5 sêr

“An enchanting musical done to perfection”

The Daily Telegraph

Mae Julian Ovenden a Gina Beck yn dychwelyd i’w rolau o gynhyrchiad Chichester Festival Theatre ac yn arwain cast syfrdanol o dros 30 gan gynnwys Rob Houchen, Joanna Ampil a Sera Maehara. Gyda cherddorfa lawn, y sioe gerdd gyfareddol hon fydd digwyddiad theatraidd y flwyddyn – peidiwch â’i cholli!

Yn cynnwys un o sgorau mwyaf cofiadwy Rodgers & Hammerstein, mae’r sioe gerdd hon, sy’n annwyl gan lawer ac sydd wedi ennill Tony a Gwobr Pulitzer, yn cynnwys caneuon megis Some Enchanted Evening, I’m Gonna Wash That Man Right Outa My Hair a Bali Ha’i.

Mae hyn yn graddio allan o 5 sêr

“A roof-raising triumph”

Guardian

Jamie Wilson, Jonathan Church Theatre Productions a Gavin Kalin
Yn cyflwyno
Cynhyrchiad Chichester Festival Theatre o
SOUTH PACIFIC
gan Rodgers & Hammerstein
Cerddoriaeth gan Richard Rodgers
Geiriau gan Oscar Hammerstein II
Llyfr gan Oscar Hammerstein II a Joshua Logan
Addaswyd o’r nofel Tales of the South Pacific, sydd wedi ennill Gwobr Pulitzer, gan James A. Michener

Canllaw oed: 12+ (dim plant dan 2 oed)

Amser cychwyn:
Maw - Sad 7.30pm
Mer, Iau a Sad 2.30pm

Hyd y perfformiad: tua 2 awr 50 munud (yn cynnwys 1 egwyl)

CYNIGION AELODAU

Gostyngiad o £10 ar y noson agoriadol. Aelodaeth.

CYNIGION I GRWPIAU

Grwpiau 10+ gostyngiad o £4, Maw - Iau.
Trefnu ymweliad grŵp.

CYNIGION i myfyrwyr a DAN 16

Gostyngiad o £4, Maw - Iau.

Cynigion yn seiliedig ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd.

Archebwch cyn gynted â phosib er mwyn sicrhau’r dewis orau o seddi. Efallai bydd prisiau tocynnau’n cael eu haddasu a bydd yn adlewyrchu’r pris presennol ar gyfer pob perfformiad yn seiliedig ar alw. Gall prisiau newid ar unrhyw adeg heb rybudd.

Patti Smith

Cyflwynir yn

Theatr Donald Gordon