Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Te prynhawn aelodau

Theatr Donald Gordon

12 Mehefin 2022

Te prynhawn aelodau

12 Mehefin 2022

Theatr Donald Gordon

Gwahoddir aelodau partner i ymuno â ni ddydd Sul 12 Mehefin am brofiad te prynhawn gwirioneddol gofiadwy ar lwyfan eiconig Theatr Donald Gordon.

Gall gwesteion fwynhau bwyd sawrus, cacennau, sgons a the gyda'r awditoriwm ysblennydd yn gefnlen i’r cyfan.

Am eich cyfle i ymuno â ni ar gyfer y digwyddiad arbennig hwn, cofrestrwch fel aelod Partner heddiw! (Y dyddiad cau ar gyfer RSVP yw dydd Gwener 20 Mai).

Yn ogystal â digwyddiadau ecsgliwsif, mae’r aelodau partner yn mwynhau llawer o fanteision eraill drwy gydol y flwyddyn gan gynnwys blaenoriaeth estynedig wrth archebu a mynediad i lolfa arbennig ein haelodau.

Y tu hwnt i hyn ac yn bwysig, mae aelodaeth partner hefyd yn helpu i gefnogi ein gwaith creadigol a chymunedol sy'n newid bywydau, sy'n golygu y gallwch ddod yn agosach at yr hyn rydych chi'n ei garu wrth ein helpu i wneud mwy.

Ar gyfer unrhyw gwestiynau am y digwyddiad hwn neu ddod yn aelod Partner, ffoniwch y tîm ar 02920 636423 neu e-bostiwch supporters@wmc.org.uk

Patti Smith

Cyflwynir yn

Theatr Donald Gordon