Mae Little Wander (sylfaenwyr Gwyliau Comedi Machynlleth ac Aberystwyth) yn falch o gyflwyno noson gala o'r dalent gomedi orau yng Nghymru!
Ymunwch â ni am noson o chwerthin gyda rhai o ddigrifwyr gorau Cymru gan gynnwys Mike Bubbins, Kiri Pritchard-McLean, Tudur Owen, Carys Eleri, Leroy Brito, Anna Thomas a'r cyflwynydd Robin Morgan.
Bydd llawer ohonoch yn adnabod Mike Bubbins fel un o gyd-gyflwynwyr y podlediad The Socially Distant Sports Bar, ac mae The Guardian wedi disgrifio Kiri Pritchard-McLean fel "An increasingly impressive comic, making powerhouse stand-up from the thorniest of subjects."
Bydd y digrifwr Tudur Owen sydd wedi ennill BAFTA yn ôl gyda mwy o gomedi benisel o Gymru, a bydd yr awdur, perfformiwr a chanwr Carys Eleri yn dychwelyd gyda'i harddull carismatig ei hun a hanesion hunanfychanol y bydd unrhyw gynulleidfa yn siŵr o'u mwynhau.
Bydd Leroy Brito yn ôl gyda mwy o straeon comedi di-flewyn-ar-dafod doniol iawn a bydd enillydd BBC New Comedy Award 2022, Anna Thomas, yn ymuno â ni hefyd.
Ac yn olaf ond nid lleiaf, Robin Morgan, y mae Broadway Baby wedi'i ddisgrifio fel "A phenomenal comic - utterly hilarious."
Dyna saith digrifwr anhygoel o Gymru am bris un!
Canllaw oed: 16+ (dim plant dan 2 oed)
Amser dechrau:
Sul 7.30pm
Hyd y perfformiad: Tua 2 awr 10 munud (yn cynnwys 1 egwyl)
Archebwch cyn gynted â phosib er mwyn sicrhau’r dewis orau o seddi. Efallai bydd prisiau tocynnau’n cael eu haddasu a byddant yn adlewyrchu’r pris presennol ar gyfer pob perfformiad yn seiliedig ar alw. Gall prisiau newid ar unrhyw adeg heb rybudd.