Mae comedi rhyngwladol lwyddiannus ac arobryn Mischief, The Play That Goes Wrong, yn baglu i mewn i Ganolfan Mileniwm Cymru y Gwanwyn yma!
Mae’r Cornley Drama Society yn cynnal noson ‘Pwy yw’r Llofrydd?’ wedi’i osod yn y 1920au, ond fel mae’r teitl yn awgrymu, mae’r sioe yn mynd o chwith! Wrth i’r actorion trwsgl frwydro ymlawn – er gwaethaf pob anffawd – cyn i’r llen ddisgyn, mae hi’n draed moch!
Mae The Play That Goes Wrong, a enwyd yn “gut-busting hit” gan y New York Times, bellach yn ei seithfed blwyddyn yn y West End, ac wedi ennill cymeradwyaeth gan nifer fawr o enwogion gan bobl fel Joanna Lumley (“We laughed until the tears ran down our faces, it has to be seen”) i Ant a Dec (“The funniest show we’ve seen! If you can get a ticket, go!”).
Peidiwch â cholli’r comedi wirioneddol ddoniol yma fydd heb os yn eich cadw’n chwerthin am hir!
“GENUINELY HILARIOUS. BOY, DOES IT HIT THE FUNNY BONE’”
Canllaw oed: 8+
Amser cychwyn:
Maw – Sad 7.30pm
Iau + Sad 2.30pm
Hyd y perfformiad: Tua 2 awr 5 munud (yn cynnwys un egwyl)
CYNIGION AELODAU
Gostyngiad o £10 ar gyfer 13 Mehefin (ar y 2 bris drutaf). Aelodaeth.
CYNIGION I GRWPIAU
Grwpiau 10+ gostyngiad o £3, Maw – Iau (ar y 2 bris drutaf). Trefnu ymweliad grŵp.
Cynigion yn seiliedig ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd.
Archebwch cyn gynted â phosib er mwyn sicrhau’r dewis orau o seddi. Efallai bydd prisiau tocynnau’n cael eu haddasu a bydd yn adlewyrchu’r pris presennol ar gyfer pob perfformiad yn seiliedig ar alw. Gall prisiau newid ar unrhyw adeg heb rybudd.