Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
a group of young people performing on a stage

Theatr Ieuenctid

Cyfle creadigol am ddim

Canolfan Mileniwm Cymru

24 – 26 Chwefror 2022

Llwytho…
{{vm.booking_status}}

{{::on_sale_date.formatted_date}}

{{::on_sale_date.label}}

Ychwanegu i’r Calendr {{::on_sale_date.on_sale_date_moment.format('DD/MM/YYYY HH:mm')}} Europe/London Theatr Ieuenctid {{::on_sale_date.label}} Canolfan Mileniwm Cymru MM/DD/YYYY 15 event-1275

Theatr Ieuenctid

Cyfle creadigol am ddim

24 – 26 Chwefror 2022

Canolfan Mileniwm Cymru

Ydych chi rhwng 14 a 17 oed, ac yn ymddiddori mewn creu theatr sy’n berthnasol i’r byd rydych chi’n byw ynddo heddiw?

Rydyn ni’n falch o gyhoeddi rhaglen theatr ieuenctid newydd sbon AM DDIM, lle byddwch chi’n dysgu sgiliau theatr a pherfformio newydd mewn gofod cyfeillgar a chynhwysol.

Yn ystod y rhaglen, byddwch chi’n datblygu eich dealltwriaeth o’r holl elfennau sy’n rhan o greu gwaith theatr da – o ymchwilio a datblygu syniadau, i gynllunio setiau a rhoi perfformiad o fri.

Ymarferwyr proffesiynol fydd yn arwain y cwrs, a byddant wrth law i rannu eu safbwyntiau unigryw o fyd y theatr, gan roi’r man cychwyn perffaith i chi i ddiwylliant celfyddydol ffyniannus Cymru.

AR GYFER PWY MAE’R CWRS?

Mae ein cyrsiau ar gael i unrhyw un rhwng 14 ac 17 oed o bob cefndir ledled Cymru, ac maen nhw ar lefel mynediad – wedi’u hanelu at y chwilfrydig, dechreuwyr, neu bobl ifanc sy’n dymuno adnewyddu eu sgiliau.

Er mwyn cadw lle ar ein cwrs am ddim dros hanner tymor mis Chwefror, cofrestrwch.

Pryd?

Bydd angen i chi allu ymrwymo i dri diwrnod y cwrs ar 24, 25 a 26 Chwefror 2022, rhwng 10am a 4pm.

Edrychwn ymlaen at eich gweld ar y llwyfan yn fuan!

AM EIN CYRSIAU LLAIS CREADIGOL

Mae Llais Creadigol yn rhaglen unigryw sy’n rhoi’r cyfle i bobl ifanc archwilio’u diddordebau, mynegi eu hunain, datblygu hyder creadigol a dysgu sut i rannu eu storïau drwy brofiadau dysgu ymarferol.

Ariennir y gweithgaredd hwn gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru.

Cyflwynir yn

Canolfan Mileniwm Cymru