Bloc wrth floc, caiff ffordd o fyw newydd ei ffurfio.
Gadewir yr Hen Foscow ar ôl pan gaiff datblygiad tai uchel eu hadeiladu, gan addo dyfodol disglair, newydd i griw o ffrindiau sy’n dioddef yn sgil prinder tai yn y ddinas. Ond nid yw popeth fel yr ymddengys.
Wedi’u rhwygo rhwng eu dyhead am y dyfeisiau diweddaraf a’u cariad tuag at yr hen Foscow, caiff perthnasau eu rhoi ar brawf, a datgelir llygredigaeth. Yn seiliedig ar ddigwyddiadau bywyd go iawn o’r cyfnod ar ôl Stalin, mae’r comedi cerddorol ysgafn hon, a berfformir gan Opera Ieuenctid clodwiw WNO, yn cynnwys corysau bywiog, caneuon ac ensemblau bachog, dilyniant o waltsiau a pholcas wedi’i thrwytho â dylanwadau jas, mewn darn hynod ddifyr a fydd yn eich gadael yn cwestiynu reality am byth.
wno.org.uk/cherrytown
#WNOcherrytown
Cenir yn Saesneg, gydag uwchdeitlau yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Amser cychwyn:
Sul 3pm + 7pm
Hyd y perfformiad: i’w gadarnhau
CYNNIG AML-DOCYN OPERA CENEDLAETHOL CYMRU
Archebwch docynnau ar gyfer 2 opera ac arbedwch 10%
Archebwch docynnau ar gyfer 3 opera ac arbedwch 15%
Archebwch docynnau ar gyfer 4 opera ac arbedwch 20%
Archebwch docynnau ar gyfer 5 neu 6 opera ac arbedwch 25%
Ar gyfer pecynnau aml-brynu, mae'n rhaid prynu'r un nifer o docynnau ar gyfer pob opera. Yn gymwys i'r 3 pris drutaf. Caiff y cynnig ei brosesu yn eich basged siopa.
CYNIGION GRŴP
Grwpiau 10+, gostyngiad o £4. Yn berthnasol i seddi penodol.
Trefnu ymweliad grŵp.
YSGOLION
£12.50 — yn berthnasol i seddi penodol. Tocyn athro am ddim gyda phob 10 disgybl. Ffôn 029 2063 6464.
CYNIGION I'R RHEINY DAN 16 OED
Tocyn am £5 wrth archebu gydag oedolyn sy'n talu am docyn pris llawn. Nodwch os gwelwch yn dda: rhaid i bob plentyn dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu’n hŷn.
Cynigion yn seiliedig ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd.
Archebwch cyn gynted â phosib er mwyn sicrhau’r dewis orau o seddi. Efallai bydd prisiau tocynnau’n cael eu haddasu a bydd yn adlewyrchu’r pris presennol ar gyfer pob perfformiad yn seiliedig ar alw. Gall prisiau newid ar unrhyw adeg heb rybudd.