Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

42nd Street

14 – 19 Awst 2023

Theatr Donald Gordon

Mae’n fawr… mae’n llachar… dyma gynhyrchiad newydd sbon o’r sioe gerdd anhygoel 42nd Street, gyda Samantha Womack fel Dorothy Block, ochr yn ochr â Michael Praed fel Julian Marsh, Faye Tozer fel Maggie Jones, Les Dennis fel Bert Barry a Nicole-Lily Baisden fel Peggy Sawyer. 

Mae Jonathan Church (Singin' In The Rain, The Drifters Girl) yn cyfarwyddo’r sioe ddawns a chân eiconig sy’n cynnwys sawl cân gofiadwy fel "42nd Street," "We’re In The Money," "Lullaby of Broadway," "Shuffle Off To Buffalo" ac "I Only Have Eyes For You".

Mae hyn yn graddio allan o 5 sêr

‘A Musical Extravaganza that will knock your socks off’

Arts Desk

Wedi’i choreograffu a’i dylunio gan Bill Deamer a Rob Jones sydd wedi ennill gwobr Olivier, mae 42nd Street yn stori ddiamser a chalonogol sy’n cyfuno dawnsdrefnau tap ysblennydd, cynllwynio cefn llwyfan, rhamant glasurol a chomedi difyr. Mae’n wirioneddol hudolus!

Yn syth oddi ar y bws o dref fach yn America, mae menyw ifanc a phrydferth o’r enw Peggy Sawyer yn cyrraedd Efrog Newydd yn breuddwydio am weld ei henw mewn goleuadau. Yn gyflym iawn mae cyfarwyddwr llwyddiannus yn sylwi arni, ac mae’n ennill lle mewn llinell gorws sioe newydd ar Broadway… a phan fydd y brif actores yn cael ei hanafu, mae Peggy yn cael cyfle i ddod yn seren.

Mae 42nd Street yn ddathliad mawreddog ac adloniadol o sioeau cerdd ac ysbryd anorchfygol Broadway sy’n bendant o godi calon pawb. Peidiwch â’i cholli!

Mae hyn yn graddio allan o 5 sêr

'A perfect production. It’s (forty) second to none'

Daily Mail

Gall ymddangosiad unrhyw aelod o'r cast newid. Gall contractau, gwyliau, salwch neu ddigwyddiadau tu hwnt i reolaeth y cynhyrchwyr effeithio ar hyn.

Canllaw oed: 5+ (dim plant dan 2 oed)
Mae'r cynhyrchiad yma yn cynnwys effeithiau gweledol a goleuadau ailadroddus sy'n fflachio, pyrotechneg, tarth a mwg theatraidd ac effeithiau sain uchel. 

Noder bod rhaid i bob plentyn dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu hŷn.

Amser dechrau:
Llun – Sad 7.30pm
Iau + Sad 2.30pm

Hyd y perfformiad: Tua 2 awr a 35 munud (yn cynnwys un egwyl)

Perfformiad Iaith Arwyddion Prydain: 17 Awst, 7.30pm. THEATRESIGN Education, Access & Mentoring Ltd sy’n darparu ein gwasanaethau Iaith Arwyddion Prydain. Y cyfieithydd ar gyfer y perfformiad yma fydd i'w gadarnhau.

CYNNIG I AELODAU

£10 i ffwrdd ar y noson agoriadol (2 bris uchaf), argaeledd cyfyngedig.
Dod yn aelod.

CYNNIG I GRWPIAU

Grwpiau o 10+ gostyngiad o £4 o leiaf, Llun – Iau (2 bris uchaf)
Trefnu ymweliad grŵp.

POBL O DAN 16 OED / MYFYRWYR

Gostyngiad o £4, Llun – Iau, (2 bris uchaf).

 

Mae pob cynnig yn amodol ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd.

Archebwch cyn gynted â phosib er mwyn sicrhau’r dewis orau o seddi. Efallai fydd prisiau tocynnau’n cael eu haddasu a byddant yn adlewyrchu’r pris presennol ar gyfer pob perfformiad yn seiliedig ar alw. Gall prisiau newid ar unrhyw adeg heb rybudd.

Patti Smith

Cyflwynir yn

Theatr Donald Gordon