Mae Roald Dahl’s Charlie and The Chocolate Factory – The Musical, stori felys enillydd y tocyn aur Charlie Bucket a'r dewin danteithion rhyfedd Willy Wonka, yn dod i Ganolfan Mileniwm Cymru.
Ar ei thaith gyntaf o amgylch y DU ac Iwerddon, mi fydd y cynhyrchiad rhagorol hwn o'r sioe gerdd llwyddiannus o'r West End a Broadway yn mynd â chi i fyd llawn dychymyg pur.
Pan mae Charlie'n ennill tocyn aur i Ffatri Siocled Wonka, mae'n gyfle unwaith mewn bywyd i wledda ar losin eu breuddwydion. Ond mae rhyfeddod yn aros tu hwnt i'r gatiau, oherwydd wrth iddynt deithio ar hyd y coridorau siwgraidd ac ymysg y danteithion anhygoel, mae'r pum enillydd yn darganfod nad yw popeth mor felys â'r disgwyl.
Gan gynnwys caneuon cofiadwy o ffilm y 1970au yn ogystal â sawl un newydd, mae'r sioe gerdd benigamp hon yn llawn pleserau i'ch syfrdanu.
Peidiwch â cholli'ch cyfle, archebwch eich tocyn aur nawr!
Yn seiliedig ar y nofel gan Roald Dahl a'r ffilm Warner Bros.
Canllaw oedran: 7+ (neb dan 2 oed)
Noder efallai bydd y perfformiad hwn yn cynnwys rhai goleuadau sy'n fflachio, pyrotechnegau a bangiau.
Amser dechrau:
Maw – Sad 7pm
Maw, Sad + Mer 17 Mai 2pm
Sul 2pm
Cynnig aelodau
£10 i ffwrdd ar y noson agoriadol (2 bris uchaf).
Dod yn aelod.
Cynigion grŵp
Grwpiaus 10+ o £5 i ffwrdd (2 bris uchaf)
Trefnu ymweliad grŵp.
Cynnig Dan 16
25% i ffwrdd o'r 2 bris uchaf, Maw i Iau. Uchafswm o 3 sedd disgownt ymhob archeb. Nodwch os gwelwch yn dda: rhaid i bob plentyn dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu’n hŷn.
Pob cynnig yn amodol ar seddi dethol, dosraniadau ac argaeledd.
Archebwch cyn gynted â phosib er mwyn sicrhau’r dewis orau o seddi. Efallai bydd prisiau tocynnau’n cael eu haddasu a bydd yn adlewyrchu’r pris presennol ar gyfer pob perfformiad yn seiliedig ar alw. Gall prisiau newid ar unrhyw adeg heb rybudd.