Bydd y cwrs dau ddiwrnod yma yn eich addysgu chi sut i greu ffilm neu fideo byr, o syniad sylfaenol am stori i ffilm derfynol wedi’i golygu.
P’un a ydych chi’n frwdfrydig dros ffilmiau neu’n ddechreuwr pur, mae’r cwrs yma wedi’i ddylunio i roi’r holl gefnogaeth sydd ei hangen arnoch.
Byddwch chi’n edrych ar wahanol fathau o ffilmiau a sut maen nhw’n adrodd eu straeon. Byddwch chi’n dysgu sut i strwythuro stori, trefnu eich saethiad a gweithio fel tîm creu ffilmiau. Byddwch chi’n ymarfer gosod saethiadau gan ddefnyddio lensiau gwahanol, gan gynllunio a ffilmio dilyniannau a golygu eich saethiadau. Byddwch chi hefyd yn archwilio sain ffilm, o ddefnyddio microffonau i greu trac sain o effeithiau.
Ar Ddiwrnod 2 byddwch chi’n cydweithio i greu ffilm fer yn seiliedig ar eich syniadau eich hun. Byddwch chi’n creu sgript a bwrdd darlunio, yn ffilmio eich saethiadau a’u golygu. Yna byddwch chi’n addasu’r sain, yn ychwanegu teitlau a chlodrestr ac yn allgludo eich ffilm derfynol fel ffeil fideo.
Caiff y cwrs yma ei redeg gan Tom Barrance sy’n addysgu pobl o bob oed i greu ffilmiau. Mae wedi rhedeg gweithdai a hyfforddiant ar gyfer grwpiau ieuenctid, ysgolion, busnesau, prifysgolion ac elusennau. Mae’n rhedeg y wefan learnaboutfilm.com i ddechreuwyr creu ffilmiau ac yn ddiweddar cyhoeddodd yr elyfr Start Marking Movies am sut i greu ffilmiau a fideos byr.
I BWY MAE’R RHAGLEN?
Mae’r cyrsiau’n agored i unrhyw un 14 – 19 oed o bob cefndir ac o bob rhan.
PRYD?
22–23 Awst, 10.30am–5pm bob dydd.
Os yw'r cwrs hwn wedi gwerthu allan, ychwanegwch eich manylion at ein rhestr aros a byddwn ni mewn cysylltiad os bydd lle ar gael.
EIN CYRSIAU LLAIS CREADIGOL
Rhaglen unigryw yw Llais Creadigol sy’n rhoi cyfle i bobl ifanc archwilio’u diddordebau, mynegi eu hunain, datblygu hyder creadigol a dysgu sut i rannu eu storïau drwy brofiadau dysgu ymarferol.
Ariennir y gweithgaredd hwn gan Sefydliad Moondance, Sefydliad Garfield Weston, Ymddiriedolaeth Elusennol Simon Gibson ac Ymddiriedolaeth Elusennol Mary Homfray.