Syfrdanodd y coreograffydd llwyddiannus o Dde Affrica Dada Masilo y beirniaid a chynulleidfaoedd gyda’i dehongliad newydd syfrdanol o Giselle yn 2019. Yn dilyn galw mawr, mae Masilo a’i chwmni o ddawnswyr anhygoel yn dychwelyd gyda’r perfformiad cyntaf yn y DU o The Sacrifice.
Gyda cherddoriaeth fyw ar y llwyfan, mae The Sacrifice wedi’i ysbrydoli gan The Rite of Spring gan Igor Stravinsky, gan gyfuno treftadaeth Ewropeaidd y darn o gerddoriaeth aruthrol hwn â symudiadau rhythmig a mynegol unigryw ‘Tswana’, dawns draddodiadol Botswana. Gyda phwyslais ar adrodd straeon a defod iachau, mae Masilo a’i dawnswyr yn cyflwyno perfformiad bywiog a fydd yn eich cludo ar daith o emosiynau.
"Deeply moving and astonishingly fresh"
"Masilo’s choreography is joyous"
"Fascinating combinations of classical ballet and Tswana dance blended seamlessly together"
Noson agoriadol: Sesiwn holi ac ateb ar ôl y sioe gyda’r cwmni
Canllaw oed: 12+ (ddim plant dan 2 oed). Yn cynnwys noethni rhannol.
Amser cychwyn:
Maw + Mer 7.30pm
Hyd y perfformiad: 65 munud (dim egwyl)
CYNIGION AELODAU
Gostyngiad o £10 ar y noson agoriadol (2 bris uchaf). Dod yn aelod.
CYNIGION GRŴP
Grwpiau o 10+ gostyngiad o £3 ar y 2 bris uchaf. Trefnu ymweliad grŵp.
DAN 30 OED + MYFYRWYR
Tocynnau am £10
Cynigion yn seiliedig ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd.
Archebwch cyn gynted â phosib er mwyn sicrhau’r dewis orau o seddi. Efallai bydd prisiau tocynnau’n cael eu haddasu a byddant yn adlewyrchu’r pris presennol ar gyfer pob perfformiad yn seiliedig ar alw. Gall prisiau newid ar unrhyw adeg heb rybudd.