Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Disney's Aladdin

7 Rhagfyr 2023 – 14 Ionawr 2024

Theatr Donald Gordon

Os oes angen lle i gadair olwyn neu sedd gofalwr arnoch, ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 029 2063 6464.

Perfformiad Ymlaciedig: Mer 10 Ionawr, 6.30pm  

Dihangwch i fyd newydd a phrofwch y digwyddiad theatraidd arbennig yma y mae 14 miliwn o bobl ledled y byd eisoes wedi’i weld.

Mae’r cynhyrchiad gorfoleddus yma, sy’n cynnwys y gerddoriaeth eiconig gan Alan Menken, Howard Ashman a Tim Rice, yn llawn hud bythgofiadwy, comedi a golygfeydd anhygoel!

 

Gydag effeithiau arbennig rhyfeddol, dros 350 o wisgoedd prydferth a cherddorfa fyw a chast ardderchog, mae Aladdin yn cynnwys yr holl ganeuon o'r ffilm a enillodd wobrau Oscar, gan gynnwys Friend Like Me, Arabian Nights ac A Whole New World.

"Sheer Genie-us"

Evening Standard

Canllaw oedran: Mae Aladdin yn argymelledig ar gyfer plant 6 oed a hŷn. Ni chaniateir mynediad i'r theatr i blant dan 3 oed (gan gynnwys babanod ar fraich). Rhaid i bob plentyn dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu’n hŷn.

Rhybuddion: Gall y cynhyrchiad hwn gynnwys effeithiau sain uchel, goleuadau strôb, Co2 yn cael ei ddefnyddio ar y llwyfan, gliter, tarth a chanonau conffeti.   

Amser cychwyn:
Mer – Sad 7.30pm
Iau + Sad 2.30pm
Sul 1pm + 6pm

Dim perfformiadau 6pm: 24 + 31 Rhagfyr, 14 Ionawr

Hyd y perfformiad: Tua 2 awr a 30 munud (yn cynnwys un egwyl)

Taith Gyffwrdd:
Sul 7 Ionawr, 5pm
Archebwch drwy we-sgwrs neu drwy ffonio'r Swyddfa Docynnau (nifer cyfyngedig o leoedd)

Perfformiad Ymlaciedig: 
Mer 10 Ionawr, 6.30pm  

Gall deiliaid tocynnau perfformiadau ar nos Wener fwynhau ychydig o hud ychwanegol. Cyn y sioe, o 6.30pm bydd dewin yn Ffwrnais i’ch diddanu gyda thriciau a deheurwydd! Hefyd, bydd diod ar thema Aladdin ar gael i’w phrynu. Mwynhewch hyn i gyd yn ogystal â hud cynhyrchiad ysblennydd Disney ym mherfformiadau ddydd Gwener 15 a 22 Rhagfyr a 5 Ionawr.

Mae ymddangosiad y dewin yn amodol ar salwch personol ac unrhyw amgylchiadau annisgwyl.

CYNIGION GRŴP

Trefnu ymweliad grŵp.

Grwpiau o 6+ gostyngiad o £4 o leiaf ar seddi penodol. Yn gymwys dydd Mercher – dydd Gwener a dydd Sul 10, 17 Rhagfyr + 7 Ionawr 6pm. 

Grwpiau o 10+ gostyngiad o £5 o leiaf ar seddi penodol. Yn gymwys dydd Mercher – dydd Iau a 2.30pm dydd Gwener 12 Ionawr 2024. Ddim ar gael 27 Rhagfyr 2023 – 4 Ionawr + 11 Ionawr 2024.

 

 

YSGOLION

Tocynnau £19.50 ac un tocyn athro am ddim i bob 10 tocyn a brynir, ar gael yn y Cylch Uchaf yn unig.

Isafswm o 10 mewn grŵp. Yn gymwys dydd Mercher – dydd Iau a dydd Gwener 12 Ionawr 2024.

Ddim ar gael 26 Rhagfyr 2023 – 4 Ionawr 2024.

Ddim ar gael ar-lein – ffoniwch 029 2063 6464.

 

Mae pob cynnig yn amodol ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd. 

Archebwch cyn gynted ag y gallwch i sicrhau’r dewis gorau o seddi. Gall prisiau tocynnau newid heb rybudd a byddant yn adlewyrchu’r galw cyfredol.

Patti Smith

Cyflwynir yn

Theatr Donald Gordon