Gwirionedd cudd. Atgofion sy’n gwanhau. Cariad cadarn.
Syrthiodd Es a Flo mewn cariad yn yr 80au. Maen nhw wedi bod yn byw fel cariadon yn gyfrinachol ers hynny. Wrth i Es fynd yn fwy anghofus o gwmpas y tŷ, mae gofalwr annisgwyl yn cyrraedd.
Pwy anfonodd y fenyw yma? Pam? A allan nhw ymddiried ynddi?
Wrth i'r byd tu allan ddod yn faich arnyn nhw, mae Flo yn ymladd i amddiffyn y bywyd maen nhw wedi’i adeiladu gyda’i gilydd dros 40 mlynedd tu ôl i ddrysau caeedig, ac yn wynebu brwydr anoddaf ei bywyd – i ddal gafael yn y fenyw mae’n ei charu.
life and love in all its joy and complexity
Gydag atgofion o Wersyll Heddwch Menywod Greenham Common – lle cwrddodd Es a Flo am y tro cyntaf fel ymgyrchwyr – mae’r ddrama newydd yma gan Jennifer Lunn yn dathlu cariad perthynas lesbiaidd hŷn, menywod yn dod at ei gilydd i ymladd dros beth sy'n iawn, a phŵer iachaol teulu dewisol.
truly brilliant
Enillydd y Popcorn Writing Award (2020) a’r Nancy Dean Lesbian Playwriting Award (2022).
Cynhyrchiad gan Ganolfan Mileniwm Cymru yw Es & Flo, sy'n agor yn Nghaerdydd y gwanwyn yma cyn trosglwyddo i'r Kiln Theatre, Llundain, 5–24 Mehefin 2023.
Dysgwch fwy am Common People – ein harddangosfa o ffotograffau gan Wendy Carrig, a gymerwyd yn Greenham Common yn 1985.
DEEPLY AFFECTING PORTRAYAL OF AN INFINITE LOVE
Cast
Flo | Doreene Blackstock
Es | Liz Crowther
Catherine | Michelle McTernan
Beata | Adrianna Pavlovska
Kasia | Reesie Dupe, Mirella Siciliano
CLODRESTR
TÎM CREADIGOL
Dramodydd – Jennifer Lunn
Cyfarwyddwr – Susie McKenna
Dylunydd Set a Gwisgoedd – Libby Watson
Dylunydd Goleuo – Simisola Majekodunmi
Dylunydd Sain a Chyfansoddwr – Tic Ashfield
Cyfarwyddwr Castio – Nadine Rennie CDG
Cyfarwyddwr Cyswllt – Alice Eklund
Cyfarwyddwr Symud – Dollie Henry MBE
Cydlynydd Agosatrwydd – Ingrid Mackinnon
Cynhyrchydd – Pádraig Cusack
TÎM CYNHYRCHU
Rheolwr Cynhyrchu – Sarah Hemsley-Cole, SC Productions Ltd
Rheolwr Llwyfan y Cwmni – Antonia Collins
Rheolwr Llwyfan y Cwmni – Ryan Lewis-Evans
Dirprwy Reolwr Llwyfan – Amy Hales
Rheolwr Llwyfan Cynorthwyol – Zoe Wale
Dylunydd Tafluniadau – Phil Bearman
Goruchwyliwr Gwisgoedd – Amy Barrett
Rhaglennydd Goleuo – Grace Priest
Peiriannydd Sain – Josh Bowles
Staff Cynhyrchu ar gyfer Canolfan Mileniwm Cymru – Ed Wilson, Eugene Capper
Cynnal a Chadw Gwisgoedd – Deryn Tudor
Cynorthwyydd Dylunio – Raphaella Philcox
Hebryngwr – Isabel Vander
Cydnabyddiaethau Cerddoriaeth:
Jean Adebambo, Lizz Wright, Jemma Freestone, Gareth Humphreys
Gyda diolch i:
Durham Scenic Workshops Ltd
Encore Lighting
Stage Lighting and Sound Services
Andy Collins, Jamie Holden, Grace Chamier
Rydyn ni’n drist iawn am farwolaeth sydyn Rheolwr Llwyfan Cwmni Es & Flo, Antonia Collins. Byddwn yn cyflwyno pob perfformiad o Es & Flo er cof amdani gyda hoffter a chariad mawr.
Amser dechrau:
Llun – Sad 7.30pm
Sad 2.30pm
Hyd y perfformiad: 1 awr 45 munud gan gynnwys egwyl
Canllaw oed: 12+
Rhybuddion: Iaith gref; goleuadau sy’n fflachio; themâu i oedolion gan gynnwys dementia a chamdriniaeth briodasol
Hygyrchedd
Sain Ddisgrifio + Teithiau Cyffwrdd
Sad 6 Mai, 2.30pm
Mer 10 Mai 7.30pm
Bydd Taith Gyffwrdd ar gael 1 awr cyn y perfformiad. Gallwch ychwanegu taith at eich basged ar gam olaf y broses archebu.
Capsiynau Agored
Iau 11 Mai 7.30pm
Sad 13 Mai 2.30pm
Ymlaciedig + Dementia-Gyfeillgar
Sad 13 Mai 2.30pm
CYNIGION I GRWPIAU
Grwpiau o 10+ gostyngiad o £3. Trefnu ymweliad grŵp.
CYNIGION I AELODAU
Gostyngiad o £3. Aelodaeth.
CYNIGION I BOBL ANABL, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
Mae Cynllun Hynt ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.
Mae cynigion yn seiliedig ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd. Nid yw cynigion yn gymwys ar gyfer rhagddangosiadau 28 Ebrill – 1 Mai.
Dysgwch fwy am gefnogi ein cynyrchiadau a'n gwaith creadigol ar draws Cymru drwy ddod yn aelod o'n Cylch y Cadeirydd.
Capsiynau Agored
Sain Ddisgrifiad
Perfformiadau Ymlaciedig
Teithiau Cyffwrdd