Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Everybody's Talking About Jamie

23 – 28 Hydref 2023

Theatr Donald Gordon

Yn dilyn cyfnod o dair blynedd lwyddiannus yn y West End, taith o’r DU ac Iwerddon a werthodd allan a ffilm boblogaidd gan Amazon Studios, mae’r sioe gerdd arobryn Everybody’s Talking About Jamie yn dychwelyd i Gaerdydd.

Mae Jamie New yn un deg chwech oed ac yn byw ar stad cyngor yn Sheffield. Dydy Jamie ddim yn teimlo ei fod yn ffitio i mewn ac mae’n ofni am ei ddyfodol. Ond mae Jamie yn mynd i fod yn ddigon o ryfeddod. Gyda chefnogaeth ei fam gariadus wych a’i ffrindiau, mae Jamie yn goresgyn rhagfarn, yn curo’r bwlis ac yn camu allan o’r tywyllwch ac i mewn i’r goleuni. Dylai’r teulu cyfan brofi’r sioe gerdd aruthrol yma, peidiwch â’i cholli!

Mae hyn yn graddio allan o 5 sêr

"IRRESISTIBLE: A JOYOUS, LIFE-AFFIRMING BILLY ELLIOT"

The Independent

Mae’r cast yn cynnwys Ivano Turco fel Jamie (Get Up, Stand Up, Bad Cinderella), John Partridge (Cabaret, La Cage Aux Folles, Chicago, Eastenders) fel Hugo/Loco Chanelle, Shobna Gulati fel Ray (The Rise and Fall of Little Voice, Everybody's Talking About Jamie, Coronation Street, Brassic), Rebecca McKinnis fel Margaret (Everybody's Talking About Jamie, Dear Evan Hansen, We Will Rock You, Les Miserables) a Talia Palamathanan fel Pritti (taith a ffilm Everybody's Talking About Jamie), gyda mwy o sêr i’w cyhoeddi.

Wedi’i gosod i sgôr gwreiddiol o ganeuon pop gafaelgar gan brif ganwr a chyfansoddwr caneuon The Feeling Dan Gillespie Sells a’r awdur Tom MacRae (Doctor Who). Wedi’i choreograffu gan un o Artistiaid Cyswllt Sadler’s Wells Kate Prince (Into the Hoods, Some Like It Hip Hop, SYLVIA, Message In A Bottle). Bydd y sioe gerdd ddisglair yma yn golygu y bydd pawb yn siarad am Jamie am flynyddoedd i ddod.

Un deg chwech: amser posibilrwydd. Amser i wireddu eich breuddwydion.

ENILLYDD! Sioe Gerdd Newydd Orau - Gwobrau WhatsOnStage, Llundain

Canllaw oedran: 14+ (dim plant dan 5 oed) yn cynnwys iaith gref

Amser dechrau:
Llun – Sad 7.30pm
Iau + Sad 2.30pm

Hyd y perfformiad: tua 2 awr 40 munud (gan gynnwys un egwyl)

Perfformiad Iaith Arwyddion Prydain: 26 Hydref, 7.30pm. THEATRESIGN Education, Access & Mentoring Ltd sy’n darparu ein gwasanaethau Iaith Arwyddion Prydain. Y cyfieithydd ar gyfer y perfformiad yma fydd Karen Ward.

Weithiau bydd salwch neu wyliau’n codi, felly nid oes modd i gynhyrchwyr warantu bod unrhyw un o’r artistiaid yn ymddangos ym mhob perfformiad. 

CYNNIG AELODAU

£10 i ffwrdd ar y noson agoriadol (2 bris uchaf). Dod yn aelod.

CYNIGION GRŴP

Grwpiau o 10+ £4 i ffwrdd o’r 2 bris uchaf, Llun i Iau. Trefnu ymweliad grŵp.

CYNNIG DAN 16

£4 i ffwrdd o'r 2 bris uchaf, Llun i Iau. Nodwch os gwelwch yn dda: rhaid i bob plentyn dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu’n hŷn.

CYNNIG MYFYRWYR

£4 i ffwrdd o'r 2 bris uchaf, Llun i Iau.

Cynigion yn seiliedig ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd.

Archebwch cyn gynted â phosib er mwyn sicrhau’r dewis orau o seddi. Efallai bydd prisiau tocynnau’n cael eu haddasu a byddant yn adlewyrchu’r pris presennol ar gyfer pob perfformiad yn seiliedig ar alw. Gall prisiau newid ar unrhyw adeg heb rybudd.

Capsiynau Agored

Iaith Arwyddion Prydeinig (BSL)

Sain Ddisgrifiad

Patti Smith

Cyflwynir yn

Theatr Donald Gordon