Mae enillwyr New Act of the Year 2022 a theilyngwyr Gwobrau Chortle 2023 yn dod â’u cabaret o hwyl benrhydd i Gymru am y tro cyntaf!
Mae’r difas arobryn yn cyflwyno eu caneuon eu hunain sy’n dathlu rhyw a chwaeroliaeth yn y noson llosgi bras yma o ddrygioni. Bydd y lleiswyr pwerus yn mynd â chi ar reid anweddus gydag anthemau dros ben llestri sydd mor amrywiol â’u hanturiaethau wrth chwilio am gariad; o helyntion pornograffi ar-lein i beryglon celfi fflat pac.
"The most dynamic girl group to hit the circuit for 40 years."
Wedi gwisgo o’u pen i'w sawdl mewn secwinau, gall y pedwarawd comedi grwnan, trydar ac iodlo drwy bron â bod popeth; fel Charlotte Church yn cwrdd â’r Spice Girls yn cwrdd â... The Inbetweeners.
Gallwch chi ddisgwyl lleisiau mawr a datganiadau mentrus yn y sbectacl disglair yma sy’n llawn doniolwch a fwlgariaeth.
"A near-perfect blend of relatable comedy, barnstorming musicality and bold feminist attitude."
Amser dechrau: 8.30pm, drysau 8pm
Canllaw oed: 18+
Rhybuddion: Iaith gref, goleuadau sy'n fflachio, cynnwys i oedolion
IECHYD DA!
Bydd y drysau yn agor 30 munud cyn i’r perfformiad ddechrau, gan roi digon o amser i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â ffrindiau a phrynu diod drwy ein ap archebu.
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3.
CYNLLUN HYNT
Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.