Ymunwch â The Boiler House Graffiti Gallery a dysgwch sut i fod yn Arlunydd Graffiti!
Ar y cwrs hwn byddwch chi'n gweithio gydag Arlunwyr Graffiti proffesiynol ac yn dysgu sut i ddefnyddio paent chwistrell i greu murluniau Graffiti lliwgar a thrawiadol ar raddfa fawr. Mae ganddynt lawer o brofiad ac maent wedi creu murluniau di-rif o amgylch y DU a thramor.
I ddathlu 50 mlynedd ers genedigaeth Hip-Hop, bydd yr artistiaid yn gweithio gyda chi i ddylunio a phaentio gwaith a fydd yn cael ei arddangos yng Nghanolfan Mileniwm Cymru.
Nodwch fod y cwrs hwn yn cael ei gynnal yn The Boiler House Graffiti Gallery yn Nhreganna. Gofynnwn i rieni/gwarcheidwaid ollwng a chasglu unrhyw bobl ifanc sy'n dilyn y cwrs yn y lleoliad hwn. Os oes gennych unrhyw anghenion neu ofynion hygyrchedd penodol o ran cyrraedd y lleoliad, cysylltwch â ni.
I BWY MAE’R RHAGLEN?
Mae’r cwrs yn agored i unrhyw un 14 – 18 oed o bob cefndir ac o bob rhan o Gymru.
I sicrhau eich lle ar ein cwrs chwe wythnos am ddim, cofrestrwch.
PRYD?
Bob dydd Iau 4.30pm – 6.30pm dros chwe wythnos yn dechrau ar 20 Ebrill 2023.
Mae chwe sesiwn i’r cwrs yma, ar y dyddiadau canlynol: 20 Ebrill, 27 Ebrill, 4 Mai, 11 Mai, 18 Mai a 25 Mai a bydd angen i chi fynd i bob un. Ychwanegwch un tocyn at eich basged er mwyn archebu lle ar y cwrs cyfan.
Os yw'r cwrs hwn wedi gwerthu allan, ychwanegwch eich manylion at ein rhestr aros a byddwn ni mewn cysylltiad os bydd lle ar gael.
EIN CYRSIAU LLAIS CREADIGOL
Rhaglen unigryw yw Llais Creadigol sy’n rhoi cyfle i bobl ifanc archwilio’u diddordebau, mynegi eu hunain, datblygu hyder creadigol a dysgu sut i rannu eu storïau drwy brofiadau dysgu ymarferol.
Ariennir y gweithgaredd hwn gan Sefydliad Moondance, Sefydliad Garfield Weston, Ymddiriedolaeth Elusennol Simon Gibson ac Ymddiriedolaeth Elusennol Mary Homfray.