Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

RSVP Bhangra

Cabaret

16 Medi 2023

Llwytho…
{{vm.booking_status}}

{{::on_sale_date.formatted_date}}

{{::on_sale_date.label}}

Ychwanegu i’r Calendr {{::on_sale_date.on_sale_date_moment.format('DD/MM/YYYY HH:mm')}} Europe/London RSVP Bhangra {{::on_sale_date.label}} Cabaret MM/DD/YYYY 15 event-1867

Cabaret

RSVP Bhangra

16 Medi 2023

Cabaret

Mae RSVP yn arwain ar adfywiad o gerddoriaeth Bhangra fyw yn y DU, gan agor drysau i artistiaid eraill a chyflwyno Bhangra i gynulleidfaoedd prif ffrwd am y tro cyntaf.

O lwyfannau enfawr yn Glastonbury (dros 16 mlynedd) a WOMAD, i ganolfannau perfformio ledled y DU ac Ewrop, maent yn sicr o gael pawb – hyd yn oed y rhai swil – ar eu traed i ddawnsio a chyffroi cynulleidfaoedd.

Mae RSVP Bhangra yn cyfuno cerddoriaeth Punjabi o India gyda rhythmau dawns a cherddoriaeth bop brif ffrwd i greu sain newydd a hudolus y mae cynulleidfaoedd wrth eu boddau’n dawnsio iddo ac yn dychwelyd iddo droeon.

Rocked the masses to exhaustion!

Glastonbury Festival

Ai llais pêr a phresenoldeb llwyfan carismatig Dildar, Judge yn rhyngweithio â’r gynulleidfa neu efallai curiadau drwm dhol penderfynol Jeevan – neu hyd yn oed isgerddoriaeth rythmig a siarp Cris a Puggy yw’r rheswm? Pwy â ŵyr? Mae’r canlyniad, sut bynnag y caiff ei gyflawni, yn gymhellol ac yn hynod gaethiwus ar unwaith!

Mae pob sioe’n cynnwys cyflwyniad i ddawnsio Bhangra – mae pawb yn cael eu cynnwys ym mherfformiad RSVP gan fod pwyslais ar greu awyrgylch o barti Punjabi. Gyda cherddorion sydd wedi’u gwreiddio’n ddwfn i draddodiad ac sydd heb ofn arloesi, dyma sioe sydd wir yn dathlu cerddoriaeth o India.

Amser dechrau: 8.30pm, drysau 7.30pm

Oed: 14+

IECHYD DA!

Drysau ar agor 1 awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.

Gallwch chi hefyd archebu drwy ein ap drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!

Nid yw’r seddi wedi’u cadw.

Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.

Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.

POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG

Gostyngiad o £3.

CYNLLUN HYNT

Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.

Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.

Cyflwynir yn

Cabaret