Yn seiliedig ar y ffilm DreamWorks a enillodd Oscar, mae’r sioe Broadway lwyddiannus Shrek the Musical, yn gomedi cerddorol llawn hwyl gyda chast o gymeriadau bywiog a sgôr ‘shrek-taciwlar’.
Yn arwain ein cast arbennig fel Shrek mae seren y theatr Antony Lawrence (The Lion King, Mary Poppins, Matilda the Musical, We Will Rock You), seren Strictly Come Dancing Joanne Clifton (Strictly Come Dancing, The Addams Family) fel Princess Fiona, yr actor a enwebwyd am wobr Olivier James Gillan (Everybody’s Talking About Jamie) fel Lord Farquaad a seren y theatr Brandon Lee Sears (Dreamgirls, Come From Away, Motown) fel Donkey.
Gyda chaneuon anhygoel gan gynnwys I’m a Believer, mae Shrek the Musical yn strafagansa gerddorol i’r teulu cyfan.
Dewch i ymuno â’r antur wrth i Shrek a Donkey geisio cwblhau eu chwiliad, gan ddod o hyd i gyfeillgarwch annisgwyl a rhamant syfrdanol ar hyd y ffordd.
Noson allan berffaith i bobl ifanc a’r rhai sy’n ifanc eu hysbryd – mae Shrek the Musical yn siŵr o fod yn hwyl i’r teulu cyfan a bydd yn gwneud i chi ddawnsio a chwerthin yr holl ffordd adref.
Canllaw oedran: 5+ (neb dan 2 oed)
Amser dechrau:
Llun – Sad 7pm
Iau + Sad 2pm
Hyd y perfformiad: tua 2 awr 35 munud (yn cynnwys un egwyl)
Perfformiad Iaith Arwyddion Prydain: 23 Tachwedd, 7.30pm. THEATRESIGN Education, Access & Mentoring Ltd sy’n darparu ein gwasanaethau Iaith Arwyddion Prydain. Y cyfieithydd ar gyfer y perfformiad yma fydd Ryan McLean RSLI.
CYNNIG AELODAU
£10 i ffwrdd ar y noson agoriadol (2 bris uchaf).
Dod yn aelod.
CYNIGION GRŴP
Grwpiaus 10+ o £5 i ffwrdd, Llun i Iau (2 bris uchaf)
Trefnu ymweliad grŵp.
CYNNIG DAN 16
25% i ffwrdd o'r 2 bris uchaf, Llun i Iau. Uchafswm o 3 sedd disgownt ymhob archeb. Nodwch os gwelwch yn dda: rhaid i bob plentyn dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu’n hŷn.
MYFYRWYR
Gostyngiad o £4. Yn gymwys ar y 2 bris drutaf, Llun – Iau.
Pob cynnig yn amodol ar seddi dethol, dosraniadau ac argaeledd.
Archebwch cyn gynted â phosib er mwyn sicrhau’r dewis orau o seddi. Efallai bydd prisiau tocynnau’n cael eu haddasu a bydd yn adlewyrchu’r pris presennol ar gyfer pob perfformiad yn seiliedig ar alw. Gall prisiau newid ar unrhyw adeg heb rybudd.
Capsiynau Agored
Iaith Arwyddion Prydeinig (BSL)
Sain Ddisgrifiad