Mae'r sioe gerdd ryngwladol arobryn The Bodyguard yn ôl! Bydd y Pussycat Doll Melody Thornton* a enwebwyd am wobr Grammy yn chwarae rhan Rachel Marron ac Ayden Callaghan (Emmerdale, Hollyoaks) fel Frank Farmer.
Mae cyn-asiant y gwasanaeth cudd, sydd bellach yn warchodwr personol, Frank Farmer, yn cael ei gyflogi i amddiffyn y seren Rachel Marron rhag stelciwr. Mae’r ddau yn meddwl mai nhw sydd wrth y llyw - yr hyn nad ydyn nhw'n ei ddisgwyl yw cwympo mewn cariad.
“the hottest ticket in town”
Ffilm gyffro ‘Brilliant!’ (The Times), syfrdanol o ramantus, mae The Bodyguard yn cynnwys llu o glasuron poblogaidd o Queen of the Night, So Emotional, One Moment in Time, Saving All My Love, Run to You, I Have Nothing, Greatest Love Of All, Million Dollar Bill, I Wanna Dance With Somebody ac un o'r caneuon mwyaf poblogaidd erioed - I Will Always Love You.
“YOU GO IN HUMMING THE TUNES, YOU COME OUT WHOOPING THEM!”
Canllaw oed: 10+ (Dim plant o dan 2)
Yn cynnwys goleuadau’n fflachio (sy’n cynnwys goleuadau strôb) ac effeithiau sain uchel (sy’n cynnwys sŵn gynnau’n tanio).
Hyd y perfformiad: Tua 2 awr a 20 munud (yn cynnwys 1 egwyl)
Perfformiad Iaith Arwyddion Prydain: 27 Ebrill, 7.30pm. THEATRESIGN Education, Access & Mentoring Ltd sy’n darparu ein gwasanaethau Iaith Arwyddion Prydain. Y cyfieithydd ar gyfer y perfformiad yma fydd Donna Ruane.
*Weithiau bydd salwch neu wyliau’n codi, felly nid oes modd i gynhyrchwyr warantu bod unrhyw un o’r artistiaid yn ymddangos ym mhob perfformiad.
CYNIGION I AELODAU
Gostyngiad o £10 ar noson agoriadol (2 bris uchaf). Aelodaeth.
CYNIGION GRŴP
Grwpiau 10+ gostyngiad o £5, Llun – Iau ar y 2 bris drutaf. Trefnu ymweliad grŵp.
Cynigion yn seiliedig ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd.
Archebwch cyn gynted â phosib er mwyn sicrhau’r dewis orau o seddi. Efallai bydd prisiau tocynnau’n cael eu haddasu a bydd yn adlewyrchu’r pris presennol ar gyfer pob perfformiad yn seiliedig ar alw. Gall prisiau newid ar unrhyw adeg heb rybudd.
Capsiynau Agored
Iaith Arwyddion Prydeinig (BSL)
Sain Ddisgrifiad