Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Opera Cenedlaethol Cymru: Candide

22 – 24 Mehefin 2023

Theatr Donald Gordon

Candide
Bernstein

Beth yn y Byd?

Mae Candide, gan Leonard Bernstein, yn antur wefreiddiol wyllt, lle mae bywyd yn Ffrainc yn ystod y ddeunawfed ganrif yn gwrthdaro â bywyd yn America yn yr ugeinfed ganrif, ar ôl y rhyfel. Cymerwch sedd, a pharatowch eich meddwl am daith droellog wrth i ni ruthro drwy fyd rhyfeddol yn llawn anhrefn – o gestyll yn yr Alpau i nendyrau Montevideo, o ddaeargrynfeydd yn Lisbon i'r jwngl Amasonaidd y tu hwnt i'r Wladfa. Wrth wylio cymdeithas wedi'i hollti gan anghydraddoldeb a theuluoedd yn cael eu dadleoli gan ryfel, mae'r stori'r un mor berthnasol heddiw a phan gafodd ei hysgrifennu’n gyntaf yn 1759.

Oherwydd y gymysgfa o ddawn gyfansoddol Bernstein a ffraethineb cignoeth Dorothy Parker, mae Candide yn waith nwyfus sy'n dwyn ynghyd goreuon Broadway, eisin ar gacen opereta a dychan diamser nofel wreiddiol Voltaire. Mae cynhyrchiad newydd WNO yn croesawu tîm penigamp, a enillodd wobr National French Critics yn 2022 am eu cynhyrchiad o The Snow Queen. Mae hefyd yn rhoi bywyd i'r byd dychmygol ac ecsentrig hwn gyda cherddoriaeth ddiweddar, animeiddiadau, dawns a brathiad gwleidyddol.

#WNOcandide

wno.org.uk/candide

Cenir yn Saesneg

Yn cynnwys themâu ac iaith a all beri gofid i rai pobl.


Amser dechrau: 
Iau, Gwe + Sad 7.30pm

Hyd y perfformiad: tua 2 awr 35 munud (yn cynnwys un egwyl)

CYNIGION GRŴP

Grwpiau o 10+, gostyngiad o £5. Yn berthnasol i seddi penodol.
Trefnu ymweliad grŵp.

YSGOLION

£12.50 — yn berthnasol i seddi penodol. Tocyn athro am ddim gyda phob 10 disgybl. Ffoniwch 029 2063 6464 i archebu.

POBL O DAN 16 OED

Tocyn £5 wrth archebu gydag oedolyn sy'n talu am docyn pris llawn. Nodwch os gwelwch yn dda: rhaid i bob plentyn dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu’n hŷn.

Cynigion yn seiliedig ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd.

Archebwch cyn gynted â phosib er mwyn sicrhau’r dewis orau o seddi. Efallai bydd prisiau tocynnau’n cael eu haddasu a byddant yn adlewyrchu’r pris presennol ar gyfer pob perfformiad yn seiliedig ar alw. Gall prisiau newid ar unrhyw adeg heb rybudd.

Patti Smith

Cyflwynir yn

Theatr Donald Gordon