Fe’ch gwahoddir i’n Diwrnod Trochi Academi Next Up!
Rydyn ni wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â Fio i ddatblygu diwrnod i ddathlu theatr hip-hop.
Bydd Diwrnod Trochi Next Up yn caniatáu i bobl ifanc o sefydliadau gwahoddedig ymgolli eu hunain mewn theatr hip-hop, gan roi cyfle i gyfranogwyr Academi Next Up rannu a pherfformio eu gwaith. Bydd y bobl sy’n dod yn cael blas o’n proses hyd yma drwy gymryd rhan mewn diwrnod o weithdai yn seiliedig ar sgiliau gyda gweithwyr proffesiynol o’r diwydiant, gan archwilio elfennau gwahanol o hip-hop gan gynnwys brecddawnsio, sgiliau DJ a rap. Hefyd, bydd gweithdy ysgrifennu a pherfformio lle bydd y bobl ifanc gwahoddedig yn ysgrifennu eu bariau eu hunain ac yn cael cefnogaeth i’w llwyfannu. Yna, byddan nhw’n perfformio fel rhan o’r sioe arddangos ei hun (gyda chyfranogiad cynulleidfa/cyfranogwyr). Drwy strwythuro’r diwrnod i gynnwys cymysgedd o weithdai a pherfformiadau, rydyn ni’n gobeithio meithrin diddordeb ehangach yn Academi Next Up a rhoi llwyfan i aelodau presennol arddangos eu datblygiad creadigol.
Bydd y sioe arddangos ei hun yn berfformiad tua 20 munud yn y Stiwdio Weston, yn rhannu casgliad o olygfeydd, rapiau, cerddoriaeth, coreograffi a gwaith celf wedi’u creu gan Academi Next Up. Y nod yw adlewyrchu’r brwdfrydedd dros theatr hip-hop a’r awydd amdani sydd wedi bod yn bresennol yn ystod sesiynau Next Up a chynnig syniad o beth allai dyfu i mewn i gynhyrchiad ar raddfa fawr. Ar ôl y perfformiad, bydd Larynx Entertainment yn arddangos grŵp o MCs o Gymru.
Bydd byrbrydau a diodydd ar gael yn ogystal â wal greadigol yn annog pobl i roi adborth ar y perfformiad a gobeithio cofrestru ar gyfer cam nesaf Next Up.
PWYSIG: Rhaid eich bod chi wedi cofrestru’n barod gyda’ch sefydliad ieuenctid. Nodwch enw’r sefydliad yma yn yr adran gofynion hygyrchedd.