Mae hwyl yr ŵyl ar y gorwel, ac mae ein cast o berfformwyr theatr gerdd yma i gyflwyno cyngerdd Nadolig hudolus sy’n llawn dop â hud a llawenydd yr ŵyl.
Dewch i fwynhau awr arbennig o adloniant gyda Mared Williams a Steffan Hughes sy’n adnabyddus fel aelodau o Welsh of the West End, a Laura Dawkes, a fu’n chwarae rhan Anna yn sioe gerdd Frozen y West End yn ddiweddar. Gyda chyfeiliant piano gan David George Harrington, sydd wedi cydweithio ag iconau’r byd pop, gan gynnwys Justin Bieber a Kylie Minogue.
O ganeuon poblogaidd Disney a chlasuron Nadolig i sioeau cerdd hudolus a chyfleoedd i forio canu, ymunwch â ni yn ein theatr Cabaret clyd wrth i ni ledaenu hwyl yr ŵyl. Dyma brofiad arbennig i’r teulu cyfan ei fwynhau’r Nadolig hwn.
Amser dechrau:
11am, drysau 10am
3pm, drysau 2pm
Hyd y perfformiad: Tua 60 munud
Oed: 2+
Rhaid i bobl o dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn 18 oed a throsodd.
IECHYD DA!
Mae drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau fel y gallwch chi ddod o hyd i fwrdd, gwneud eich hunain yn gyfforddus ac archebu diodydd a byrbrydau o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy ein ap drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
PLANT, POBL ANABL + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
GRWPIAU
Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Tocynnau am ddim i ofalwyr a chymdeithion. Dysgwch fwy am gynllun hygyrchedd Hynt.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.