Yn anffodus, mae'r digwyddiad yma wedi cael ei ganslo.
Ymbaratowch Caerdydd! Mae’r seren cabaret Andrew Pepper yn dod amdanoch chi!
Bydd Pepper, sy’n artist preswyl yn Crazy Coqs yn Llundain ac sydd newydd ddod nôl o dymor yn y Lido enwog ym Mharis, yn dod i Gaerdydd am un noson yn unig.
Straeon anodd eu credu, jôcs hynafol, corwynt o freichiau a choesau a repertoire cerddorol sy’n gwthio bob ffordd o chanson i Cher, drwy Broadway, Brel a Barry Manilow.
Felly, ymbinciwch, ffoniwch y gwarchodwr plant a pharatowch i gael eich codi’n uwch na Wayne Rooney mewn twtw wrth i Pepper gyflwyno ei sioe frygowthaidd, ysblennydd, ddiarbed heb ei hail i CHI!
Gydag Alex Maynard ar y piano a Tristan Butler ar y drymiau.
“He of the magnificent voice”
“Andrew Pepper, a winner whatever he’s doing”
Amser dechrau: 8.30pm, drysau 7.30pm
Oed: 18+
Rhybuddion: Iaith gref, synau uchel a goleuadau sy’n fflachio bosibl
IECHYD DA!
Drysau ar agor 1 awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy ein ap drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
GRWPIAU
Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.