Mae Asian Purrsuasion ‘nôl! Ymunwch ag Alia, Muz ac Aiman am noson o straeon bywyd go iawn, barddoniaeth a pherfformiadau ysblennydd ganddyn nhw a’u hoff artistiaid QTPOC addawol.
Gallwch chi ddisgwyl noson o lawenydd cwiar De Asiaidd pur gydag ychydig o sbeis.
Yn cynnwys perfformiadau gan:
Vish
Rokat
Welsh Ballroom Community x Whoremone HQ
Rahim El Habachi
Jordropper
Asian Purrsuasion
Menter arloesol wedi’i harwain gan bobl gwiar, traws ac anneuaidd yw Asian Purrsuasion, a gafodd ei chreu i rymuso artistiaid De Asiaidd a QTPOC yng Nghymru. Wedi’i ffurfio gan Alia a Muz o Welsh Ballroom Community a’r awdur, perfformiwr a threfnydd cymunedol Aiman, mae Asian Purrsuasion yn herio’r status quo, hyrwyddo amrywiaeth a dathlu lleisiau a ymyleiddiwyd yn y celfyddydau.
Amser dechrau: 8.30pm, 7.30pm drysau
Oed: 15+
Rhybuddion: Iaith gref, goleuadau sy’n fflachio
IECHYD DA!
Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy ein ap drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
GRWPIAU
Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.