Jessie Montgomery Coincident Dances [Premiere DU]
Elena Kats-Chernin Fantasie im Wintergarten [Premiere DU]
Huw Watkins Symffoni Rhif 2
-
Gemma New arweinydd
Emily Sun ffidil
FFRES | EGNÏOL | ERGYDIOL
Mae BBC NOW – NAWR!, ein cyfres bwrpasol ar gyfer y gerddoriaeth newydd orau sy’n cael ei hysgrifennu heddiw, yn ôl yr hydref hwn gyda dau berfformiad cyntaf yn y DU, yn ogystal â symffoni gan ein cyn Gyfansoddwr Cyswllt, Huw Watkins.
Yn gyntaf, y perfformiad cyntaf yn y DU o Coincident Dances gan Jessie Montgomery. Mae egni gwyllt a phalet amlddiwylliannol clywedol yn disgleirio yn y portread hwn o seiniau Efrog Newydd. Daw’r ail berfformiad cyntaf yn y DU ar ffurf concerto Elena Kats-Chernin i’r ffidil, Fantasie im Wintergarten, a ysgrifennwyd ar gyfer yr unawdydd heno, Emily Sun. Wedi’i ysbrydoli gan ffilm fud o’r 1920au a oedd wedi’i gosod yn syrcas ffair y Wintergarten yn Berlin, mae’r concerto yn archwilio’r cyferbyniad rhwng cariad a brad – o olau i gysgod, tango i anhrefn, meistrolaeth i delynegiaeth ohiriedig. I gloi, trown at Ail Symffoni Huw Watkins, a ysgrifennwyd yn ystod y pandemig, mae’r gwaith hwn ar raddfa fawr, er ei fod yn gymharol fyr, ac yn rhoi cyflwyniad grymus o wead hudolus ac alaw lydan.
Amser cychwyn: 7.30pm
Amser rhedeg: 100 munud
DAN 26 OED A MYFYRWYR
£6
DROS 65 OED, YN ANABL AC YN DDI-WAITH
£12
Mae pob cynnig yn amodol ar seddi dethol, dyraniadau ac argaeledd.