Ohhhh! Helo Caerdydd!
Mae Tracey Collins (Shell Suit Cher, Audrey Heartburn) yn dychwelyd i Cabaret gyda’i strafagansa bingo gomedi gerddorol newydd sbon: ‘Bingo & The City gyda Samantha Groans!’
Mae Samantha Groans yn rhoi ei pheli yn y ddinas yn y noson syfrdanol yma o gomedi gerddorol yn llawn ensyniadau (innuendos) a llawenydd! Bydd caneuon jaaaaaz beiddgar, straeon doniol a gwobrau bingo moethus!
Paratowch ar gyfer yr act parodi cerddorol Sex and the City rydych chi wedi bod yn dyheu amdano. Treuliwch noson chwilboeth gyda brenhines peli bingo sy’n dawnsio ac yn canu: Samantha Groans! Oohhhh!
'There might be no funnier celebrity (mis)impersonator on UK stages right now'
'The queen of character comedy'
Enillydd Newydd-ddyfodiad Gorau London Cabaret Awards
Teilyngwr Act Newydd y Flwyddyn
Teilyngwr Musical Comedy Awards
Parodi sydd ddim yn gysylltiedig â Sex and the City
Amser dechrau: 8.30pm, 7.30pm drysau
Canllaw oed: 18+
Rhybuddion: Iaith gref
IECHYD DA!
Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy ein ap drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
GRWPIAU
Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Tocynnau am ddim i ofalwyr a chymdeithion. Dysgwch fwy am gynllun hygyrchedd Hynt.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.