Ydych chi'n barod i greu ychydig o hafoc?
Daeth dau blentyn o dref fach yng nghanol unman yn arwyr mwyaf America. Roedden nhw’n dyheu am antur – a’i gilydd. Eu henwau oedd Bonnie a Clyde.
Mae enillydd y Sioe Gerdd Newydd Orau (WhatsOnStage Awards 2023) a’r llwyddiant ysgubol Bonnie & Clyde yn dod i Ganolfan Mileniwm Cymru ar ôl dau dymor afreolus yn y West End yn Llundain.
Gyda Catherine Tyldesley (Coronation Street, Strictly Come Dancing) fel Blanche, Alex James Hatton (Newsies, Heathers) a Katie Tonkinson (Bat Out of Hell) fel y cariadon drwg-enwog, yng nghwmni Sam Ferriday (The Cher Show, Rock of Ages) fel Buck a Jaz Ellington (The Voice) fel The Preacher. Nate Landskroner (Waitress, Heathers) fydd yn chwarae rôl Clyde mewn perfformiadau matinee – caiff y perfformiwr a fydd yn chwarae'r Bonnie amgen ei gadarnhau yn fuan.
Yn ddiofn, yn ddigywilydd ac yn ddeniadol, mae gan y cynhyrchiad arobryn yma nifer mawr o ddilynwyr, yn debyg i’r pâr drwgenwog eu hunain, a nawr maen nhw’n dod i ysgubo i mewn i Gaerdydd.
Darganfyddwch y stori wefreiddiol am gariad, antur a throsedd a hoeliodd sylw cenedl gyfan.
"A killer show"
Gyda cherddoriaeth gan yr enwebai am wobr Tony Frank Wildhorn (Jekyll & Hyde), geiriau gan enillydd gwobr Tony ac Oscar Don Black (Sunset Boulevard), a llyfr gan yr enwebai am wobr Emmy Ivan Menchell, ac wedi’i gyfarwyddo gan Nick Winston.
Archebwch nawr – peidiwch â cholli allan!
Canllaw oed: 12+
Yn cynnwys goleuadau sy'n fflachio/strôb, cleciau uchel ac iaith gref
Amser cychwyn:
Maw – Sad 7.30pm
Mer + Sad 2.30pm
Hyd y perfformiad: tua 2 awr 30 munud, yn cynnwys un egwyl
Weithiau bydd salwch neu wyliau’n codi, felly nid oes modd i gynhyrchwyr warantu bod unrhyw un o’r artistiaid yn ymddangos ym mhob perfformiad
AELODAU
Gostyngiad o £10 ar y noson agoriadol (2 bris uchaf), nifer cyfyngedig o lefydd
GRWPIAU
Grwpiau o 10+ gostyngiad o £4 o leiaf, Maw – Iau, ar y 2 bris uchaf
Cynigion yn seiliedig ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd.
Archebwch cyn gynted ag y gallwch i sicrhau’r dewis gorau o seddi. Gall prisiau tocynnau newid heb rybudd a byddant yn adlewyrchu’r galw cyfredol.
Capsiynau Agored
Iaith Arwyddion Prydeinig (BSL)
Sain Ddisgrifiad