Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
Christopher Hall stands holding a bouquet of flowers.

Christopher Hall: Girl for All Seasons

Cabaret

27 Medi 2024

Llwytho…
{{vm.booking_status}}

{{::on_sale_date.formatted_date}}

{{::on_sale_date.label}}

Ychwanegu i’r Calendr {{::on_sale_date.on_sale_date_moment.format('DD/MM/YYYY HH:mm')}} Europe/London Christopher Hall: Girl for All Seasons {{::on_sale_date.label}} Cabaret MM/DD/YYYY 15 event-2314

Cabaret

Christopher Hall: Girl for All Seasons

27 Medi 2024

Cabaret

Mae’r cymeriad poblogaidd ar y cyfryngau cymdeithasol, Christopher Hall, yn adrodd stori ei fywyd fel ‘bachgen sydd braidd yn ferchetaidd’.

O obsesiwn eithafol gyda thywysogesau pop, i ddilyn cysgod y Merched Poblogaidd yn yr ysgol a dysgu gwersi bywyd gan gast y ffilm ‘Bad Girls’, pam na fyddai pawb yn ceisio bod yn fwy merchetaidd?

Efallai bod dynion o blaned Mawrth, ond mae merched o Fenws, ac yn ôl Christopher, dyna lle mae’r hwyl.

Mae sgetsys Christopher sy’n serennu ‘Background Singers, ‘Your Cat’ a ’The Millennial’ wedi cael dros 12 miliwn o hoffiadau, 50 miliwn o wyliadau, ac wedi arwain at gydweithio gyda Kylie, Shania Twain a JoJo.

Cyflwynir gan Mick Perrin Worldwide Ltd.

"perpetual bliss"

Playbill.com

Amser dechrau: 8.30pm, drysau 7.30pm

Oed: 18+

Rhybuddion: Iaith gref, synau uchel

IECHYD DA!

Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.

Gallwch chi hefyd archebu drwy ein ap drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!

Nid yw’r seddi wedi’u cadw.

Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.

Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.

POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG

Gostyngiad o £3

GRWPIAU

Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+

Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.

CYNLLUN HYNT

Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.

Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.

Cyflwynir yn

Cabaret