Mae bod yn swot yn secsi!
Mae Clumsy Cabaret ’nôl gyda chyfuniad o ganu byw, drag a bwrlésg mewn noson o berfformiadau ar thema’r arwr a’r dihiryn, gan berfformwyr anhygoel fel Alice Bizarre, Ruby Derriere, Ophelia Wilde a llawer mwy.
Noson gabare arbrofol yw Clumsy Cabaret, sy’n ceisio rhoi llwyfan i berfformwyr niwroamrywiol, anabl ac sydd wedi’u tangynrychioli. Mae cyfuniad o berfformwyr newydd ac adnabyddus bob tro, sy’n creu noson unigryw a hwyliog i bawb sy’n rhan ohoni.
Amser dechrau: 8.30pm, 7.30pm drysau
Oed: 18+
Rhybuddion: Iaith gref, noethni rhannol, synau uchel a goleuadau sy’n fflachio bosibl
IECHYD DA!
Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy ein ap drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
GRWPIAU
Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.