Caroline Shaw
The Observatory [Premiere DU]
Ravel
Concerto i’r Piano yn G
Bartók
Concerto i Gerddorfa
-
Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC
Giancarlo Guerrero arweinydd
Sergio Tiempo piano
Dyma’r tro cyntaf i waith Caroline Shaw, The Observatory, gael ei berfformio yn y DU. Gyda’i gyfuniad o ddryswch ac eglurder, blaendir a chefndir, yr ysbrydoliaeth ar gyfer y darn oedd ymweliad ag Arsyllfa Griffin ger Hollywood Bowl. Ynddo, mae’n archwilio ffyrdd newydd o edrych ar y bydysawd, gan asio’r hen a'r newydd mewn llif ymwybod nad yw byth yn dod i ben yn yr union le y dechreuodd.
Bydd concerto eiconig Ravel i’r piano, sy’n gyforiog o gyferbyniadau telynegol, alawon sionc a llinellau cymhleth cyfoethog i’r piano, yn cael ei berfformio gan y pianydd heb ei ail, Sergio Tiempo, wrth iddo ymddangos am y tro cyntaf gyda BBC NOW. Dathliad pur o gerddoriaeth a lliwiau offerynnau, I gloi'r rhaglen syfrdanol hon, cawn berfformiad o Goncerto Bartók i Gerddorfa, gyda’i adleisiau o gerddoriaeth werin, dan arweiniad Giancarlo Guerrero, yr arweinydd o Costa Rica sydd wedi ennill Gwobr Grammy.
Amser dechrau: 7.30pm
Hyd y perfformiad: I'w cadarnhau
UNDER 26S AND STUDENTS
£5
OVER 65S, DISABLED AND UNWAGED
£10
All offers subject to selected seats, allocations and availability.