Wyt ti rhwng 16 a 25 oed ac oes gen ti ddiddordeb mewn archwilio technoleg greadigol a phrofiadau ymdrochol?
Ymuna â ni yng Nghanolfan Mileniwm Cymru bob nos Fercher yn dechrau o 20 Tachwedd 2024 lle byddi di’n cydweithio’n agos ag arbenigwyr yn y diwydiant i ddod â syniadau yn fyw gan ddefnyddio technoleg ymdrochol.
Yn ystod y cwrs 12 wythnos Creu XR, byddi di’n dysgu gan ein hwyluswyr syfrdanol a fydd yn addysgu sgiliau hanfodol a phrosesau cynhyrchu i ti er mwyn i ti ddatblygu dy brototeipiau XR (realiti ymestynnol) dy hun. P’un a oes gen ti ddiddordeb mewn datblygu dy syniadau ar gyfer VR, AR neu hyd yn oed creu ffilmiau ymdrochol, bydd ein prif hwyluswyr Klaire a James yn helpu i lunio dy syniadau ochr yn ochr â thîm o fentoriaid sydd ag arbenigeddau amrywiol yn y diwydiant yma.
PWY SY’N ADDYSGU’R CWRS?
Klaire Tanner
Ers dros 14 mlynedd, dwi wedi ymdrochi fy hun ym myd technoleg arloesol, gan archwilio ei photensial creadigol mewn prosiectau masnachol, gan gynnwys Realiti Rhithwir (VR) a realiti estynedig (AR)., Mae gweld esblygiad technoleg dros y blynyddoedd wedi bod yn ddiddorol iawn.
Gyda phob ymdrech newydd, mae fy mrwdfrydedd dros greu cynnwys rhyngweithiol gyda pheiriannau gemau wedi tyfu’n fawr. Wrth i mi weithio mewn stiwdios amrywiol, gwelais fy hun yn cael fy nenu at y biblinell datblygu cynnyrch cyfan. O gysyniadoli a dyluniadau i rannu’r cynnyrch olaf â’r byd a darparu ôl-ofal, cefais i fy nghyfareddu gan y ffordd y gall cynnyrch digidol gael effaith gadarnhaol ar ddefnyddwyr terfynol.
Fy nod yw credu profiadau ystyrlon ac effeithiol drwy fy ngwaith. Rwy’n credu ym mhŵer technoleg a chreadigrwydd i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ym mywydau pobl, ac rwy’n ymroddedig i wthio ffiniau beth sy’n bosibl yn y sector digidol.
James Taylor
Dwi’n arbenigo yn y cyfryngau ac yn dechnegydd creadigol, sydd wedi gweithio ar brosiectau gyda’r BBC, Prifysgol De Cymru, llywodraeth leol, cwmnïau theatr, busnesau bach, y celfyddydau a threftadaeth, a’r sector ieuenctid, fel gwneuthurwr ffilmiau, golygydd fideo, peiriannydd sain, cyfarwyddwr technegol, ymgynghorydd, creawdwr marchnata digidol ac addysgwr, i enwi ond ychydig.
Mae’r profiad yma wedi caniatáu i mi ddatblygu ystod eang o sgiliau a gwybodaeth mewn marchnata a chyfathrebu digidol, creu ffilmiau, cynhyrchu sain, ffotograffiaeth ac addysg, a dwi’n defnyddio hyn yn fy ngwaith fy hun fel creawdwr, ac yn fy ngwaith addysgu fel hyfforddwr cyfryngau annibynnol.
Dechreuodd fy nhaith drwy dirwedd y cyfryngau o oed ifanc. Roedd gen i ddiddordeb brwd yn y celfyddydau gweledol (ffotograffiaeth, ffilm, teledu) ers y tro cyntaf i mi weld camera, a chefais gyfle i arbrofi gyda thynnu lluniau a recordio fideo. Datblygodd y diddordeb yma a fy mhrofiad dros amser, wrth i mi gael fy nghamcordydd fy hun a chreu ffilmiau byr, i dynnu lluniau gyda chamera SLR fy nhad, a gyda’r profiad yma datblygais i frwdfrydedd dros adrodd straeon gweledol a’r cyfryngau.
Er fy mod yn byw yn y de-orllewin, dwi’n gweithio gyda chleientiaid o bob rhan o’r DU i ddod â’u gweledigaeth yn fyw, p’un a yw hynny drwy adrodd straeon gweledol i hyrwyddo busnesau neu nodi atgofion gwerthfawr, gan helpu i ddatblygu’r genhedlaeth nesaf o greawdwyr cynnwys drwy hyfforddiant proffesiynol, neu addasu i’r dirwedd cyfryngau sy’n newid drwy’r amser.
OES ANGEN UNRHYW SGILIAU NEU BROFIAD ARNA I ER MWYN CYMRYD RHAN?
Nac oes – mae’r cwrs yma yn agored i bob lefel a gallu.
Pryd mae'r cwrs?
20 Tachwedd – 19 Chwefror, 5pm – 7pm.
Gwyliau Nadolig: 25 Rhagfyr + 1 Ionawr.
SUT YDW I’N ARCHEBU?
Archeba dy le drwy glicio ar y botwm archebu ar y dudalen yma. Gwna'n siŵr dy fod yn gallu dod i bob sesiwn o’r cwrs dros y pedwar diwrnod.
Os yw’r cwrs yma wedi gwerthu allan, ychwanegwch eich manylion at ein rhestr aros a byddwn ni’n cysylltu â chi os bydd lle ar gael.
EIN CYRSIAU PLATFFORM
Rhaglen hyfforddi unigryw yw Platfform sy’n cynnig llwyfan i bobl ifanc archwilio eu diddordebau, mynegi eu hunain, meithrin hyder creadigol a rhannu eu naratif drwy ddysgu ymarferol.