Wyt ti’n weithiwr llawrydd creadigol sydd â syniad yr hoffet ti archwilio opsiynau cyllid ar ei gyfer ond dwyt ti ddim yn gwybod ble i ddechrau?
Ymuna â’n cwrs ar-lein Cyflwyniad i Godi Arian ar gyfer Gweithwyr Llawrydd Creadigol. Bydd y cwrs yma yn rhoi’r wybodaeth ac adnoddau sydd eu hangen arnat i ddeall sut i ariannu dy brosiectau creadigol.
Erbyn diwedd y cwrs dwy awr yma, bydd cyfranogwyr yn gallu:
- Deall tirwedd codi arian unigryw gweithwyr llawrydd creadigol
- Nodi ffynonellau cyllid priodol ar gyfer eu prosiectau
- Deall sut i gynllunio prosiect
Ar gyfer pwy mae’r cwrs yma?
Gweithwyr llawrydd creadigol rhwng 18 a 25 oed, gan gynnwys artistiaid, awduron, dylunwyr, gwneuthurwyr ffilmiau, cerddorion a phobl greadigol annibynnol eraill sydd eisiau ariannu eu prosiectau.
Pryd mae'r cwrs?
16 Hydref 6pm – 8pm.
SUT YDW I’N ARCHEBU?
Archeba dy le drwy glicio ar y botwm archebu ar y dudalen yma.
EIN CYRSIAU PLATFFORM
Rhaglen hyfforddi unigryw yw Platfform sy’n cynnig llwyfan i bobl ifanc archwilio eu diddordebau, mynegi eu hunain, meithrin hyder creadigol a rhannu eu naratif drwy ddysgu ymarferol.
Caiff y gweithgaredd yma ei ariannu gan Sefydliad Moondance, Sefydliad Garfield Weston, Ymddiriedolaeth Elusennol Simon Gibson ac Ymddiriedolaeth Elusennol Mary Homfray.