Pres Nadoligaidd yn Neuadd Hoddinott!
Mae’n bleser gennym gyhoeddi Cyngerdd Nadolig Band Pres Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn Neuadd Hoddinott (Canolfan Mileniwm Cymru) ddydd Gwener 13 Rhagfyr!
Mae Kapitol Festivals yn gyffrous i weithio mewn partneriaeth â CBCDC i ddod â’r cyngerdd amser cinio hudolus hwn o gerddoriaeth dymhorol yn fyw. Mae’n gyfle perffaith i deulu gydganu ac i gofleidio ychydig o hwyl y Nadolig – gyda ffefrynnau’r Nadolig, trefniadau pefriog, a mymryn o hud y gwyliau. Mae hwn yn argoeli i fod yn gyngerdd i'w gofio!
Peidiwch â cholli’r cyfle i brofi synau llawen y Nadolig gyda Band Pres CBCDC, dan gyfarwyddyd Dr. Robert Childs. Mae tocynnau ar gael nawr - mynnwch eich un chi cyn iddynt werthu allan!
Amser: 13:00-14:00
Rhaglen gyngerdd:
O Ddwyfol Nos | Adolphe Adam tref Wilkinson
Santa Claus-Trophobia | Sandy Smith
The Christmas Song | Torme a Wells tref. Sparke
O Deuwch Ffyddloniaid a Clywch lu’r nef | Band a Chynulleidfa
Frosty The Snowman | Nelson a Rollins tref. SmithThe
Last Jingle Bells | James Last tref.Woodfield
A Christmas Festival | Leroy Anderson tref.
WoodDymunwn Nadolig Llawen | Band a Chynulleidfa
Canllaw oedran: Addas i bawb (Dim plant dan 2 oed)
Amser cychwyn: 1pm
Amser rhedeg: Tua 1 awr (dim egwyl)
Gwybodaeth Hygyrch: Cynllun Hynt yn berthnasol
Dan 16 oed pobl dros 60 oed a myfyrwyr
£2 i ffwrdd
Cynnig Ysgol
£4 i ffwrdd, Rhaid i o leiaf 20 tocyn grŵp ysgol, fod yng nghwmni 2 oedolyn sy'n talu.
Mae pob cynnig yn amodol ar seddi dethol, dyraniadau ac argaeledd. Cysylltwch â ni i archebu.