HWYLIOG | JASAIDD | HWYL
Mae ein Dathliadau Nadolig hynod boblogaidd yn ôl!
Bydd un o sêr y West End, Louise Dearman, yn camu i’r llwyfan ochr yn ochr â Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC a’r arweinydd Pete Harrison am noson yn cynnwys eich hoff alawon Nadolig, pob un gyda naws jazz a swing. O Santa Claus is Coming to Town a Have Yourself a Merry Little Christmas, i Sleigh Ride a Rudolph the Red Nosed Reindeer, ynghyd ag ambell syrpreis ar hyd y ffordd, mae’r cracer Nadolig bywiog hwn yn berffaith i’r teulu i gyd ac yn siŵr o’ch rhoi mewn hwyliau da. Felly cofiwch wisgo eich siwmperi Nadolig a’ch hetiau Nadoligaidd, ac ymunwch â ni yn Neuadd Hoddinott y BBC i gael noson swingtastig o gerddoriaeth.
Pete Harrison arweinydd
Louise Dearman canwr
Amser cychwyn: 3pm + 7pm
Amser rhedeg: 105 munud
Gwybodaeth Mynediad: Dehongli BSL
DAN 26 OED A MYFYRWYR
£6
DROS 65 OED, YN ANABL AC YN DDI-WAITH
£12
Mae pob cynnig yn amodol ar seddi dethol, dyraniadau ac argaeledd.
Iaith Arwyddion Prydeinig (BSL)