Mae Drag Queen Story Hour: The Theatrical Experience yma! O YDI WIR!
Beth sy’n digwydd pan fydd storiâu cynhwysol, arbennig a breninesau drag ysblennydd yn dod at ei gilydd? Beth am i ni ddarganfod gyda’n gilydd, achos mae hi’n amser am Awr Stori Brenhines Drag!
Ymunwch ag Aida H Dee y Frenhines Drag Amser Stori wrth iddi fynd â chi ar daith hudolus drwy fyd o gymeriadau lliwgar fydd yn rhoi gwen o glust i glust ar wyneb pawb. Gydag anturiaethau gwirion fydd yn gwneud i bawb chwerthin a brenhines drag sydd methu’n lan â chofio ym mhle gadawodd hi ei wig sbâr!
Wedi’i ysgrifennu, ei gynhyrchu a’i berfformio gan y Frenhines Drag Amser Stori ei hun, Aida H Dee. Mae Aida yn awdur llyfrau i blant cyhoeddedig, yr artist drag gyntaf i ddarllen storiâu mewn llyfrgell, ac yn sylfaenydd Drag Queen Story Hour UK. Fe enillodd wobr Arweinydd y Flwyddyn gan PinkNews yn 2022.
Amser dechrau:
11am Sul 8 + 22 Rhag
3pm Sul 15 Rhag
Oed: Yn addas i bawb, ond fwyaf cyffrous i blant 3+ oed
Rhaid i bobl o dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn 18 oed a throsodd.
Hyd y perfformiad: 60 munud + sesiwn 20 munud i gwrdd â’r Frenhines Drag ar ôl yr amser stori
PLANT, POBL ANABL + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
GRWPIAU
Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Tocynnau am ddim i ofalwyr a chymdeithion. Dysgwch fwy am gynllun hygyrchedd Hynt.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.