Gyda dros 300,000 o ddilynwyr ar y cyfryngau cymdeithasol a thros 200 miliwn o wyliadau ar-lein, mae’r digrifwr clodwiw yma’n ôl gyda champwaith rhyw-bositif am y bwlch pleser.
Mewn byd lle mae menywod mewn perthnasau heterorywiol yn dal i wneud rhan helaeth o’r gwaith tŷ a’r gofal plant, ond eto’n cael orgasm leiaf aml yn ystod rhyw â phartner - mae Eleanor Conway yn gofyn a ydyn ni wir wedi cyrraedd mor bell â hynny yn y frwydr am gydraddoldeb rhwng y rhyweddau? Pwy sy’n elwa go iawn ar briodas a babanod? A sut gall menywod syth negodi tegwch pleser yn y stafell wely o’r diwedd?
Rhestr fer ar gyfer Gwobr Gomedi Moose 2023
"Unashamedly X-rated...Conway is fired up and fed up"
"Like the Barbie movie, but with more sex"
Amser dechrau: 8.30pm, drysau 7.30pm
Oed: 18+
Rhybuddion: Iaith gref
IECHYD DA!
Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy ein ap drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
GRWPIAU
Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.