Yn galw gwneuthurwyr ffilmiau arswyd!
Wyt ti’n barod i blymio i mewn i fyd creu ffilmiau arswyd? P’un a wyt ti’n ddechreuwr llwyr neu wedi rhoi cynnig ar greu fideos o’r blaen, dyma dy gyfle i ryddhau dy greadigrwydd a dysgu crefft saethu ffilmiau arswyd iasoer!
Ymuna â ni am gyfres o weithdai dynamig a chyflym 28–31 Hydref lle byddi di’n cael profiad ymarferol gydag offer soffistigedig ac yn dysgu hanfodion llunio straeon arswydus ar y sgrin. O feistroli’r camera i roi dy farc unigryw ar y fersiwn terfynol, byddi di’n creu dychryniadau sinematig mewn dim o dro!
Yn berffaith i’r rhai a gymerodd ran yn ein cyrsiau fideo cerddoriaeth a ffilmiau dogfen yn gynharach eleni neu unrhyw un newydd sy’n awyddus i ddysgu. Byddi di ddim yn unig yn meithrin sgiliau creu ffilmiau ymarferol ond hefyd yn ymchwilio i theori ffilmiau a thechnegau creadigol eraill byddi di’n gallu eu defnyddio’n hawdd yn dy brosiectau dy hun – hyd yn oed os nad oes gennyt ti offer o’r radd flaenaf.
Paid â cholli allan ar y cyfle gwych yma! Cofrestra heddiw ac ymuna â ni am bedwar diwrnod cyffrous o greu ffilmiau arswyd!
PWY SY’N ADDYSGU’R CWRS?
Bydd Jamie Panton, fideograffydd â degawd o brofiad, yn dy arwain di ar bob cam o’r ffordd. Ar ôl dechrau diymhongar gyda dim ond DSLR a recordydd sain, mae Jamie yn gwybod sut i greu hud heb lawer o arian. Mae ei waith yn cynnwys ffilmiau dogfen, fideos cerddoriaeth a phrosiectau corfforaethol, gan ganolbwyntio’n aml ar straeon personol am iechyd meddwl. Gyda chariad at sinema avant-garde, mae brwdfrydedd Jamie dros greu ffilmiau yn heintus, a dyw e methu aros i weld beth fyddi di’n ei greu yn ei weithdai.
OES ANGEN UNRHYW SGILIAU NEU BROFIAD ARNA I ER MWYN CYMRYD RHAN?
Nac oes – mae’r cwrs yma yn agored i bob lefel a gallu.
PRYD MAE'R CWRS?
28 – 31 Hydref, 12pm – 6pm.
SUT YDW I’N ARCHEBU?
Archeba dy le drwy glicio ar y botwm archebu ar y dudalen yma. Gwna'n siŵr dy fod yn gallu dod i bob sesiwn o’r cwrs dros y pedwar diwrnod.
Os yw’r cwrs yma wedi gwerthu allan, ychwanegwch eich manylion at ein rhestr aros a byddwn ni’n cysylltu â chi os bydd lle ar gael.
EIN CYRSIAU PLATFFORM
Rhaglen hyfforddi unigryw yw Platfform sy’n cynnig llwyfan i bobl ifanc archwilio eu diddordebau, mynegi eu hunain, meithrin hyder creadigol a rhannu eu naratif drwy ddysgu ymarferol.
Caiff y gweithgaredd yma ei ariannu gan Sefydliad Moondance, Sefydliad Garfield Weston, Ymddiriedolaeth Elusennol Simon Gibson ac Ymddiriedolaeth Elusennol Mary Homfray.