Oherwydd amgylchiadau annisgwyl, mae'r digwyddiad yma wedi'i ganslo. Rydyn ni wedi cysylltu â deiliaid tocynnau drwy e-bost.
Mae’n amser dod i fwynhau noson o ganeuon George Benson, wrth i ni dalu teyrnged i’r archseren soul Americanaidd a helpodd i greu r’n’b soul modern.
Mae’r cynhyrchiad syfrdanol yma, sy’n sioe newydd sbon gan Entertainers – a gyflwynodd The Magic of Motown, Lost in Music a Fastlove – yn dathlu gwaith seren gerddorol.
Mae Give Me the Night yn cyflwyno cân ar ôl cân: Never Give up on a Good Thing, Love Times Love, In Your Eyes, Lady Love Me (One More Time), Shiver, The Greatest Love of All, Turn Your Love Around, On Broadway, Feel Like Making Love a llawer, llawer mwy.
Gyda’r perfformiwr blaenllaw adnabyddus Nat Augustin, peidiwch â cholli’r sioe yma.
Amser dechrau: 7.30pm
Hyd y perfformiad: I'w gadarnhau
Canllaw oed: 8+ (dim plant o dan 2 oed). Rhaid i bob plentyn dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu hŷn.
Rhybuddion: Goleuadau sy’n fflachio
Archebwch cyn gynted ag y gallwch i sicrhau’r dewis gorau o seddi. Gall prisiau tocynnau newid heb rybudd a byddant yn adlewyrchu’r galw cyfredol.