Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Hwyl gyda’r Fainc

Gweithdy Symudiad Teulu

Glanfa

24 – 25 Hydref 2024

Llwytho…
{{vm.booking_status}}

{{::on_sale_date.formatted_date}}

{{::on_sale_date.label}}

Ychwanegu i’r Calendr {{::on_sale_date.on_sale_date_moment.format('DD/MM/YYYY HH:mm')}} Europe/London Hwyl gyda’r Fainc {{::on_sale_date.label}} Glanfa MM/DD/YYYY 15 event-2352

Hwyl gyda’r Fainc

Gweithdy Symudiad Teulu

24 – 25 Hydref 2024

Glanfa

Os ydych chi eisiau cael hwyl fel teulu mae’r gweithdy arweiniedig 45 munud yma yn rhoi man diogel i deuluoedd chwarae ac archwilio mainc bren ENFAWR gyda’i gilydd. 

Bydd pob bloc 45 munud yn dechrau gyda sesiwn gynhesu ddifyr fyr i gerddoriaeth. Yna byddwch chi’n cael cyfle i ddringo a siglo’r o’r fainc enfawr. Drwy gydol pob sesiwn byddwch chi’n cael rhyddid i chwarae gyda’ch gilydd wrth gael eich cefnogi gan arweinydd y gweithdy.  

Mae’r gweithdy yma yn gyfle i deuluoedd dreulio amser gyda’i gilydd, felly bydd angen i oedolion fod yn bresennol drwy’r amser.  

Wedi’i gyflwyno gan y dawnsiwr, coreograffydd, awdur a chyfarwyddwr Krystal S. Lowe, a gafodd ei geni ym Mermuda ac sy’n byw yng Nghymru.  

Croeso i bobl o bob gallu. 

Sesiynau gweithdy:

Iau 24 Hydref
1pm – 1.45pm, 2pm – 2.45pm, 3pm – 3.45pm

Gwe 25 Hydref
10am – 10.45am, 11am – 11.45am, 12pm – 12.45pm

Oed: Bob oed. 

Dim ond nifer cyfyngedig o lefydd sydd ar gael felly archebwch eich lle ymlaen llawn os hoffech chi ddod. 

Cyflwynir yn

Glanfa