Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
Kizza wears a bowler hat and bright yellow blazer holding a toy gun and toy baby in a rabbit suit.

Kizza: BIGFUNKYMAGICMAN

Cabaret

21 Medi 2024

Llwytho…
{{vm.booking_status}}

{{::on_sale_date.formatted_date}}

{{::on_sale_date.label}}

Ychwanegu i’r Calendr {{::on_sale_date.on_sale_date_moment.format('DD/MM/YYYY HH:mm')}} Europe/London Kizza: BIGFUNKYMAGICMAN {{::on_sale_date.label}} Cabaret MM/DD/YYYY 15 event-2318

Cabaret

Kizza: BIGFUNKYMAGICMAN

21 Medi 2024

Cabaret

Gyda digon o drychinebau hudol absẃrd o anhrefnus, darlleniadau meddwl cwbl ddwl, a chwerthin mawr, mawr – dyma sioe hud gomedi i oedolion!

Paratowch am daith ddoniol orwyllt ar chwyrligwgan gan y dewin comedi clodwiw, KIZZA. Ar ôl synnu cynulleidfaoedd o Marrakech i Trinidad a’r tu hwnt, dewch i weld y gwallgofddyn byd-enwog yma’n gwneud ei giamocs yng Nghaerdydd.

Dylech ddisgwyl yr annisgwyl, gwobrau ofnadwy, nonsens cyffrous, a stwff syfrdanol sy’n gwneud i chi holi ‘sut wnaeth e hynny?’. RHYBUDD: Mae tocynnau’n gwerthu’n gyflym!

ENILLYDD Act Newydd Orau: Gŵyl Gomedi Bwcarest
ENILLYDD Gwobr Ysbryd yr Ŵyl: Gŵyl Cyrion Colchester
ENILLYDD Act Ryngwladol Orau: Arddangosiad Comedi Copenhagen

“Crazy, romping, infectious energy from start to finish.”

Fringe Review

“Fabulously funny night out.”

York Press

“Genuinely joyful.”

Reviews Hub

Amser dechrau: 8.30pm, drysau 7.30pm

Oed: 12+
Rhaid i bobl o dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn 18 oed a throsodd.

Rhybuddion: Goleuadau sy’n fflachio a synau uchel bosibl

IECHYD DA!

Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.

Gallwch chi hefyd archebu drwy ein ap drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!

Nid yw’r seddi wedi’u cadw.

Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.

Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.

POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG

Gostyngiad o £3

GRWPIAU

Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+

Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.

CYNLLUN HYNT

Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.

Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.

Cyflwynir yn

Cabaret