Yn cyflwyno Gweithdy Carnifal Lamour Maz X Canolfan Mileniwm Cymru! Ymunwch â ni ar gyfer dosbarth dynamig ac ymdrochol wedi’i gynllunio ar gyfer pobl sy’n frwdfrydig dros Carnifal a’r celfyddydau creadigol.
Yn y gweithdy byr ond llawn yma, byddwch chi’n cloddio i fyd lliwgar dylunio Carnifal, gan ddysgu technegau hanfodol a thriciau i uwchraddio eich sgiliau i’r lefel nesaf. Dyma gipolwg ar beth fyddwch chi’n ei feistroli:
- Gwaith gwifrau sylfaenol ar gyfer penaddurnau
- Crefftio bandiau pen a choleri gwddf
- Gwaith lleoli plu i greu effaith syfrdanol
- Lleoli gemau ac awgrymiadau trimio
- Creu darnau coes plu i greu ensemble cyfan
P’un a ydych chi’n ddylunydd profiadol neu’n chwilfrydig, mae’r gweithdy yma yn cynnig cyfle unigryw i buro eich crefft a rhyddhau eich creadigrwydd. Oes gennych chi gwestiynau neu ddiddordebau penodol? Rydyn ni yma i roi arweiniad a chymorth personol.
Ymunwch â ni wrth i ni ddod ag ysbryd Carnifal Notting Hill i Gymru!
GALWAD CYHOEDDUS: DIGWYDDIADAU A PHERFFORMIADAU CYMUNEDOL 2024-25
Ydych chi angen lleoliad i ddathlu digwyddiad diwylliannol neu greadigol, neu ofod perfformio? Os felly, bydden ni wrth ein boddau’n clywed gennych chi… Ewch i weld rhagor o wybodaeth yma.