Oherwydd amgylchiadau annisgwyl, mae'r digwyddiad yma wedi'i ganslo. Rydyn ni wedi cysylltu â deiliaid tocynnau drwy e-bost.
Awr o gomedi lled-fyrfyfyr, sy’n plygu’r meddwl ac yn gwyro’r corff, gan y clown/dawnsiwr/digrifwr Lewys Holt. Bydd fflip-fflopio rhyfedd ar hyd y lle yn ysbrydoli Lewys i herio’u hunain a’u cynulleidfa, wrth iddyn nhw gynnig awr flasus o ddryswch ac afresymoldeb wedi’i chrefftio’n fedrus.
Mae’r artist o Gymru/Canada/Leeds, Lewys Holt, yn dod i Cabaret am y tro cyntaf, ond maen nhw’n hen law ar Ŵyl Cyrion Caeredin – ac rydyn ni’n falch o’u croesawu nhw i’n blwyddyn gyntaf o gynnal Penwythnos Rhag-ddangosiadau Caeredin.
“Mesmerising”
“Very likeable”
Amser dechrau:
Gwe 19 Gorffennaf 7pm
Sad 20 Gorffennaf 8.30pm
Oed: 18+
Rhybuddion: Synau uchel ac iaith gref bosibl
Amserlen Penwythnos Rhagddangosiadau Caeredin!
Gwe 19 Gor | 7pm | Lewys Holt: My Extremely Skilled Staff... (18+) |
8.30pm | Blodwen's in Business (18+) | |
10pm | Sam Hickman: Sexy Rude Harp Concert (18+) | |
Sad 20 Gor | 7pm | The Emu War: A New Musical (12+) |
8.30pm | Lewys Holt: My Extremely Skilled Staff... (18+) | |
10pm | Sam Hickman: Sexy Rude Harp Concert (18+) | |
Sul 21 Gor | 2.30pm | Locomotive for Murder: The Improvised Whodunnit (12+) |
4pm | The Emu War: A New Musical (12+) | |
5.30pm | Blodwen's in Business (18+) |
IECHYD DA!
Cofiwch gyrraedd mewn digon o amser fel y gallwch chi fwynhau diod o Teras, ein bar awyr agored, sydd tu allan i fynedfa Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy ein ap drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
GRWPIAU
Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.