Handel Messiah
-
John Butt arweinydd
Fflur Wyn soprano
Marta Fontanals-Simmons mezzo soprano
Joshua Ellicott tenor
James Atkinson bass
Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC
GORFOLEDDUS| TYMHOROL| YSBRYDOL
Dechreuwch eich Nadolig eleni gydag un o’r gweithiau corawl mwyaf adnabyddus a phoblogaidd yng ngherddoriaeth y Gorllewin, y Messiah gan Handel.
Wedi’i hen sefydlu fel un o draddodiadau’r Nadolig i gynulleidfaoedd ledled y byd, mae Messiah Handel yn wir ddathliad o Ŵyl y Geni; yn fywiocaol ac eto’n emosiynol a soniarus iawn. Yn cynnwys testun ysgrythurol a gasglwyd gan Charles Jennes, o Feibl y Brenin Iago a salmau o’r Llyfr Gweddi Gyffredin, mae’r Messiah yn cynnwys peth o’r gwaith oratorio mwyaf gwefreiddiol yn y repertoire, gan gynnwys ‘Cans i nyni fe aned mab’, ‘Yr utgorn a gân’ a’r corws ‘Haleliwia’ enwog.
Ymunwch â Cherddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC, ochr yn ochr â’r arweinydd byd-enwog John Butt, am brofiad gwir orfoleddus dros yr ŵyl!
Amser cychwyn: 7pm
Amser rhedeg: 155 munud
DAN 26 OED A MYFYRWYR
£6
DROS 65 OED, YN ANABL AC YN DDI-WAITH
£12
Mae pob cynnig yn amodol ar seddi dethol, dyraniadau ac argaeledd.