I gyd-fynd â NUTCRACKER (the alternative cabaret) sydd ymlaen yn y Stiwdio Weston 3–31 Rhagfyr, rydyn ni’n cyflwyno gweithdai Creu Zine sy’n canolbwyntio ar hunaniaeth a mynegiant cwiar a traws yng Nghymru.
Yn ystod y gweithdy yma byddwch chi’n creu eich zine eich hun o dan gyfarwyddyd arbenigol yr artist zine Efa Supertramp. Gyda’n gilydd byddwn ni’n archwilio beth mae’n ei olygu i fod yn berson cwiar, traws neu anneuaidd yng Nghymru drwy sgwrs, crefft a chreadigrwydd.
Does dim angen paratoi dim na chael unrhyw brofiad blaenorol; dewch yn barod i greu! Byddwn ni’n darparu’r deunyddiau i gyd.
Mae’r gweithdy am ddim yma yn agored i bawb, gyda ffocws penodol ar unigolion cwiar, traws ac anneuaidd, gan gynnwys cynrychiolaethau rhywedd sydd ynghlwm wrth ddiwylliant e.e. Dau ysbryd.
Mae Efa Supertramp wedi bod yn creu zines ei hun ers dros ddegawd, am amrywiaeth o bynciau o gerddoriaeth danddaearol i deithio, anturiaethau a chelf – mae ganddi gasgliad o gannoedd o zines ac mae’n frwdfrydig am hunangyhoeddi a gwasg annibynnol.
Dosbarthwr zine cwiar, anarchydd, is-ddiwylliannol a gwneuthurwr gigiau DIY o Dde Cymru yw Daughters of Carmilla, sy'n aml mewn gigiau pync DIY yn rhedeg system cymerwch beth rydych chi eisiau, talwch beth rydych chi eisiau.
Amseroedd gweithdai: 10am – 1pm
Oed: 16+
Mae'r gweithdy yma am ddim ond mae angen tocyn.