Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Cynhyrchiad Canolfan Mileniwm Cymru a Juliette Manon

NUTCRACKER (the alternative cabaret)

Oed 18+

3 – 31 Rhagfyr 2024

Stiwdio Weston

Croeso i Le Crack – y clwb cabaret salw allwch chi ddim peidio â’i garu.

Cropiwch o dan y waliau a sgrialwch i mewn ar gyfer soiree o fwrlésg deniadol, perfformiadau awyr beiddgar, gwyrni plygu rhywedd a band tŷ a fydd yn gwneud i chi wichian mewn pleser. Wedi’i gyflwyno gan eich penarglwydd tanddaearol, llais y fermin – y Rat King!

Mentrwch i mewn os ydych chi’n meiddio. Dewch, rhowch eich teganau i lawr ac ymunwch â’r creaduriaid rhyfedd yng nghuddfan y Rat King...

Mae hyn yn graddio allan o 5 sêr

"bursting with energy... captivating cabaret"

The Edit

"a riot of colour and creativity"

Wyburn & Wayne

Mae NUTCRACKER (the alternative cabaret) yn stori gariad gwiar a throad i oedolion ar glasur Nadoligaidd. Wedi’i gyfarwyddo gan Juliette Manon, gyda cherddoriaeth fyw wreiddiol gan Sam Roberts a Heledd Watkins o HMS Morris, a pherfformiadau tywyll pleserus gan Len Blanco, Diomede, Cadbury Parfait, Rotten Peach a Daisy Williams.

Yn seiliedig ar stori tylwyth teg wreiddiol E.T.A. Hoffmann o 1816 The Nutcracker and the Mouse King, bydd y profiad cabaret ymdrochol yma yn gwyrdroi normau ac yn myfyrio ar y da, y drwg a’r prydferth yn ein byd modern.

Cynhyrchiad Canolfan Mileniwm Cymru a Juliette Manon.

Mae hyn yn graddio allan o 5 sêr

"queer joy... a reminder that your identity is a strength"

City Girl Network
Y Cwmni

LEN BLANCO/LEN GWYN (nhw/fe)
The Rat King

DIOMEDE (fe/nhw)
The Nutcracker

CADBURY PARFAIT (hi)
Fly + The Sugar Plum Fairy

DAISY WILLIAMS (hi)
Spider + Ellie-Dee

ROTTEN PEACH (hi/"it")
Moth

HELEDD WATKINS (hi)
Roach

SAM ROBERTS (fe)
Papa the Pigeon

TÎM CREADIGOL

Syniad gan Juliette Manon ac wedi’i greu gan y Cwmni

JULIETTE MANON (nhw)
Cyfarwyddwr

SAM ROBERTS (fe) + HELEDD WATKINS (hi) (o HMS Morris)
Cyfansoddwyr

ELAN ISAAC (hi)
Cyfarwyddwr Symud

BRAD CALEB LEE (fe)
Dylunydd Set a Gwisgoedd

JANE LALLJEE (hi)
Dylunydd Goleuo

JAMES TOMLINSON (fe)
Peiriannydd a Dylunydd Sain

LEILA NAVABI (hi/nhw)
Dramatwrg

HAZEL JEWKES (hi)
Goruchwyliwr Gwisgoedd

ELLIOT DITTON (fe)
Gwneuthurwr / Cynorthwyydd Dylunio

TÎM CYNHYRCHU

TOM NAYLOR (fe)
Rheolwr Cynhyrchu

PHILIPPA MANNION (hi)
Rheolwr Llwyfan

OLWEN BARNES-ARCHER (hi)
Dirprwy Reolwr Llwyfan

BOE CRECRAFT (fe/hi/nhw)
Rheolwr Llwyfan Cynorthwyol

GETHIN RAY (fe)
Rheolwr Llwyfan Cynorthwyol

ANDREW WYNNE (fe)
Rhaglennydd Goleuadau

LEE TINNION (fe)
Ymgynghorydd Awyrol

EFA SUPERTRAMP (hi/nhw)
Hwylusydd Gweithdy

DAUGHTERS OF CARMILLA (hi)
Hwylusydd Gweithdy

NIKKI HARRIS (hi)
Dehonglwr BSL

IOAN GWYN (fe)
Sain Ddisgrifiwr


CANOLFAN MILENIWM CYMRU

ALED REES (fe)
Cynhyrchydd

LYDIA DURNELL (hi)
Cynhyrchydd Cynorthwyol

CONNOR MULLINS (fe)
Rheolwr Technegol Stiwdio Weston

DIOLCH

DIOLCH ARBENNIG I:

aelodau’r cwmni, timau creadigol a chreawdwyr y tair blynedd diwethaf o sioeau cabaret Nadolig yr ydym wedi adeiladu ein sioe ar eu gwaddol.

GYDA DIOLCH I:

Cyngor Celfyddydau Cymru; Adrannau Gwisgoedd a Wigiau Opera Cenedlaethol Cymru; Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru; Theatr y Sherman; Ruby Gibbens; Ruth Stringer; Emily Butler; Kitty Callister; Liv Murton; Syrcas Cimera Caernarfon; OG, Al, Sian + The Circus House Manceinion; NoFit State Circus; Duncan Hallis; Branwen Jones; Phil Jones.

Juliette Manon (nhw) – Cyfarwyddwr

Mae Juliette yn gyfarwyddwr ac artist amlddisgyblaethol cwiar anneuaidd o ogledd Cymru. Yn ddiweddar maen nhw wedi cwblhau preswyliad yn Theatr Clwyd fel derbynnydd Hyfforddeiaeth Carne i Gyfarwyddwyr yng Nghymru (22–24), ar ôl hyfforddi’n flaenorol yng Ngholeg Cerdd Brenhinol y Gogledd a Phrifysgol Manceinion. Maen nhw’n frwdfrydig am lwyfannu lleisiau heb gynrychiolaeth ddigonol ac adrodd straeon rhyfeddol a gwirion drwy lens haniaethol.

Mae eu gwaith diweddar fel Cyfarwyddwr yn cynnwys: Lydia Merch y Cwilt (Eisteddfod Genedlaethol Cymru), Dysgu Hedfan (BBC/It’s My Shout), Ble mae trenau’n mynd gyda’r nos a chwestiynau mawr eraill bywyd (Y Cwmni), Ie Ie Ie (Theatr Genedlaethol Cymru).

Fel Cyfarwyddwr Cyswllt/Staff: The Great Gatsby (Theatr Clwyd a The Guild of Misrule), Truth or Dare (Theatr Clwyd), The In-Between, (Theatr Clwyd a NYTW).

Amser dechrau: 8.30pm
Matinee 31 Rhagfyr 3.30pm

Hyd y perfformiad: tua 2 awr yn cynnwys un egwyl

Cyfyngiad oedran: 18+

Mae hon yn sioe cabaret fawreddog Nadoligaidd a difyr. Fodd bynnag, roedden ni eisiau rhannu rhai rhybuddion cynnwys pwysig cyn i chi ddod i mewn.

Rhybuddion: iaith gref; golygfeydd o natur rywiol; noethni rhannol; darluniau o drais, homoffobia a thrawsffobia; rhai golygfeydd a all beri gofid i aelodau o'r gynulleidfa; goleuadau strôb; goleuadau sy'n fflachio; mwg; tawch; synau uchel sydyn

Hygyrchedd

Caiff perfformiadau dydd Mercher 11 a dydd Mawrth 31 Rhagfyr eu dehongli i BSL gan Nikki Harris

Caiff perfformiad dydd Mercher 18 Rhagfyr ei sain ddisgrifio gan Ioan Gwyn.

IECHYD DA!

Drysau ar agor 30 munud cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau ac archebu diod drwy ein ap. Gallwch archebu drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!

Nid yw’r seddi wedi’u cadw.

Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.

Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.

POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG

Gostyngiad o £3 (ac eithrio rhagddangosiadau)

CYNNIG GRWPIAU

Grwpiau o 10+, £3 i ffwrdd (ac eithrio rhagddangosiadau)

Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.

CYNLLUN HYNT

Tocynnau am ddim i ofalwyr a chymdeithion. Dysgwch fwy am gynllun hygyrchedd Hynt.

Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.

Iaith Arwyddion Prydeinig (BSL)

Sain Ddisgrifiad

Cyflwynir yn

Stiwdio Weston

Perfformiadau Hygyrch

Gweld popeth
Dear Evan Hansen

Dear Evan Hansen

Only Fools and Horses

Only Fools and Horses

Drama Gyffrous J B Priestley

An Inspector Calls

Hamilton title and star logo

Hamilton

Chicago

Calamity Jane

Y clasur cerddorol arbennig

Ghost the Musical

Joseph and the Amazing Technicolor Dreamcoat

Geiriau gan Tim Rice, Cerddoriaeth gan Andrew Lloyd Webber

War Horse

Cynhyrchiad llwyddiannus y National Theatre

Llwyddiant anhygoel y West End

Ghost Stories

Ysgrifennwyd gan Jeremy Dyson ac Andy Nyman

The swan prince

Swan Lake

Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Dathliadau Nadolig

Text reads NUTCRACKER (the alternative cabaret) over an image of a drag king in classic black and white cabaret make-up, wearing a white ruffle and sticking their tongue through an open nutcrcracker.

Cynhyrchiad Canolfan Mileniwm Cymru a Juliette Manon

NUTCRACKER (the alternative cabaret)

Oed 18+

Hwyl yr Ŵyl i Bawb

Gweld popeth
Hamilton title and star logo

Hamilton

Text: All I Want For Christmas is Musicals

David Mahoney + Canolfan Mileniwm Cymru yn cyflwyno

All I Want For Christmas is Musicals

David Mahoney + Canolfan Mileniwm Cymru yn cyflwyno

All I Want For Christmas is Family Musicals!

Bocs

StoryFutures: Xperience

Talwch beth y gallwch · Byd o brofiadau ymdrochol

Cabaret

Drag Queen Story Hour UK

gydag Aida H Dee

Text reads NUTCRACKER (the alternative cabaret) over an image of a drag king in classic black and white cabaret make-up, wearing a white ruffle and sticking their tongue through an open nutcrcracker.

Cynhyrchiad Canolfan Mileniwm Cymru a Juliette Manon

NUTCRACKER (the alternative cabaret)

Oed 18+

A stall displaying handmade ceramic plates, mugs, bowls and spoons in a range of colours and hand-etched patterns

Marchnad Nadolig

indie.collectives gan Annie & Lolo